Newyddion S4C

Storm Isha: Miloedd o gartrefi heb drydan a thrafferthion i deithwyr

22/01/2024
storm isha porthcawl.png

Fe gafodd miloedd o gartrefi eu gadael heb drydan ddydd Sul wrth i Storm Isha barhau i effeithio ar y wlad.

Mae rhybudd oren am wyntoedd cryfion wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 18:00 nos Sul, ac fe fydd yn parhau tan 09:00 fore Llun.

Cafodd hyrddiadau 90mya eu cofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri ddydd Sul.

Roedd toriadau ar gyflenwadau trydan ar draws de orllewin Cymru am amser hefyd.

Cafodd Pont Britannia ei chau i bob cerbyd yn sgil y gwyntoedd cryfion, ond mae'r bont bellach wedi ei hailagor i holl draffig heblaw beiciau, beiciau modur a charafanau.

Mae cyfyngiad cyflymder o 30mya yn parhau mewn grym ar gyfer yr holl draffig. 

Cafodd sawl ffordd ei chau ddydd Sul oherwydd llifogydd a gwyntoedd cryfion, gan gynnwys yr A5 rhwng Pentrefoelas a Betws y Coed, ond mae bellach wedi cael ei hailagor. 

Mae'r A5 rhwng Capel a Bethesda wedi cau i'r ddau gyfeiriad.

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y gallai’r tywydd garw beryglu bywyd.

Cafodd mwy na 1,400 o gartrefi yng Nghaerfyrddin eu gadael heb bŵer ar un cyfnod nos Sul yn ôl y Grid Cenedlaethol, gyda 500 wedi eu heffeithio yng Nghastell Nedd Port Talbot a 500 yn Sir Benfro.

Ar hyn o bryd, mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru chwe rhybudd 'Disgwylir llifogydd - angen gweithredu ar frys', gan gynnwys ger yr Afon Efyrnwy yn Llansantffraid a Lanymynech, Afon Clydach Isaf, Afon Nedd a'r Afon Conwy.

Mae yna 16 o rybuddion 'Llifogydd: Byddwch yn barod' mewn grym ar draws y wlad, gan gynnwys yn Nyffryn Conwy, ac mewn ardaloedd o gwmpas yr afon Clwyd o Glocaenog i Ruddlan.

Mae yna rybudd am lifogydd yn yr ardal ger yr afon Gwy ym Mhowys hefyd, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio bod disgwyl lefelau'r afon yn uwch na'r arfer.

Mae 22 o wasanaethau gan Drafnidiaeth Cymru wedi cael eu canslo fore Llun, gyda 18 ymhellach wedi cael eu heffeithio neu eu gohirio am gyfnod.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio teithwyr bod "oedi, newid neu gwasanaethau yn cael eu canslo yn bosib" ac yn "cynghori teithwyr i wirio cyn teithio".

Cafodd hediadau a oedd yn fod i gyrraedd maes awyr Caerdydd o Amsterdam a Chaeredin eu canslo, gyda nifer o hediadau eraill  yn cael eu dargyfeirio.

Roedd y rhain yn cynnwys hediad o Tenerife i Gaeredin a gafodd ei ddargyfeirio i Cologne yn Yr Almaen, ac un o Fanceinion i Ddulyn ond a gafodd ei ddargyfeirio i Lerpwl.

Dywedodd y newyddiadurwraig Jennifer Jones bod ei hediad wedi cael ei ddargyfeirio 415 milltir o Fryste i Gaeredin.

Siroedd

Mae’r rhybudd oren yn berthnasol i’r siroedd canlynol:

Blaenau Gwent

Pen-Y-Bont ar Ogwr

Caerffilli

Caerdydd

Caerfyrddin

Ceredigion

Conwy

Gwynedd

Ynys Môn

Merthyr Tudful

Sir Fynwy

Castell-nedd Port Talbot

Casnewydd

Sir Benfro

Powys

Rhondda Cynon Taf

Abertawe

Torfaen

Bro Morgannwg
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.