Dyn o ogledd Cymru wedi marw ar ôl disgyn i’r môr oddi ar fferi
21/01/2024
Mae dyn 44 oed o ogledd Cymru wedi marw ar ôl iddo ddisgyn i’r môr oddi ar fferi ger Lerpwl.
Dywedodd Heddlu Glannau Mersi fod y dyn wedi ei godi o’r môr gan hofrennydd Gwylwyr y Glannau a’i gluo i’r ysbyty ar ôl iddo ddisgyn o fferi Stena Estrid rhwng Belffast a Phenbedw ddydd Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu ei fod wedi marw yn fuan wedi’r digwyddiad.
Ychwanegodd yr heddlu nad oedd marwolaeth y dyn yn cael ei ystyried yn amheus a bod adroddiad yn cael ei baratoi i’r crwner a bod teulu’r dyn wedi cael gwybod.
Llun: Vessel Finder