Newyddion S4C

Cymro’n ennill ras seiclo fawr yn Awstralia

21/01/2024
Stephen Williams

Mae’r Cymro Stephen Williams wedi ennill ras seiclo’r Tour Down Under, y ras gyntaf o’r flwyddyn yng nghyfres rasys seiclo’r byd.

Fe enillodd Williams, sy’n 27 oed o Aberystwyth cymal ola’r ras i sicrhau’r fuddugoliaeth yn gyfan gwbl.

Fe orffennodd Williams, o dîm Israel Premier Tech, y ras naw eiliad o flaen Jhonatan Narváez o Ecwador, yn dilyn chwe chymal ac 850km o amgylch talaith De Awstralia.

“Am gymal, rwy ar ben fy nigon, mae’r cymorth dwi wedi ei gael gan y tîm wedi bod yn anhygoel.

“Fedrai ddim diolch iddyn nhw ddigon.

“Mae’n wych cael ennill yma yn Awstralia, ras fawr gynta’r flwyddyn.”

Llun: X/Israel Premier Tech

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.