Newyddion S4C

Beth fydd yn digwydd i weithwyr dur hŷn fydd yn colli swyddi yn Tata?

21/01/2024
TATA PORT TALBOT (PA)

Mae pryderon wedi eu codi am obeithion gweithwyr hŷn fydd yn colli swyddi yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot.

Ddydd Gwener fe gadarnhaodd y cwmni eu bod nhw’n bwriadu bwrw mlaen gyda chynlluniau i gau dwy ffwrnais chwyth er mwyn symud eu gwaith i gynhyrchu dur mewn modd mwy gwyrdd a chynaladwy.

Mae’r cynlluniau yn golygu bydd 2,800 o bobl yn colli eu swyddi yn ogystal ag eraill gyda chwmnïau sy’n cyflenwi’r gwaith.

Mae undebau wedi rhybuddio fod y penderfyniad yn mynd i fod yn drychinebus i economi'r diwydiant dur a’r economi ehangach ac yn bygwth streiciau mewn ymateb.

Mae Tata wedi ymrwymo i ddarparu £130 miliwn o gymorth i weithwyr ail-hyfforddi neu ddod o hyd i swyddi newydd.

Mae grŵp sy’n cefnogi gweithwyr hŷn yn dweud fod ymchwil mewn diwydiannau tebyg yn dangos fod angen cymorth penodol ar weithwyr hŷn, fel eu bod yn dygymod â’r trawma o golli swydd, yn aml yn dilyn blynyddoedd o wasanaeth.

Dywedodd The Centre for Ageing Better fod gweithwyr hŷn yn fwy tebygol o wynebu cyfnod hirach o ddiweithdra hyd yn oed ymddeoliad gorfodol.

Dywedodd Emily Andrews, dirprwy gyfarwyddwr y grŵp: “Mae gan y diwydiant yma fwy o weithwyr hŷn ar gyfartaledd felly fe fydd canran uchel o’r gweithwyr sy’n wynebu colli eu swyddi yn debygol o fod dros 50 oed.

“Mae ystadegau’n dangos eu bod nhw’n llai tebygol o gael swydd newydd o fewn tri mis na’r rhai sydd o dan 50 oed.

“Mae hyn yn wastraff mawr o dalent ac mae angen hybu hyder, hyfforddiant arbenigol a chymorth i baratoi ceisiadau am swyddi newydd er mwyn gwneud gwahaniaeth mawr yn yr amgylchiadau hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.