Newyddion S4C

Israel yn herio America dros sefydlu gwladwriaeth Palestina

21/01/2024
Benjamin Netanyahu

Mae prif weinidog Israel Benjamin Netanyahu wedi gwrthod y syniad o greu gwladwriaeth i Balestina.

Daw ei sylwadau ar ôl sgwrs ffôn gydag Arlywydd America, Joe Biden.

Dywedodd Mr Biden efallai y bydd Mr Netanyahu yn dal i dderbyn y syniad.

Fodd bynnag mae sylwadau Mr Netanyahu yn awgrymu fod perthynas Israel yn pellhau oddi wrth America.

Mae America o’r farn fod gwladwriaeth Palestinaidd ochr yn ochr ag Israel yn bosib ac yn hanfodol i sefydlogrwydd yn y rhanbarth.

Dywedodd llefarydd o’r Tŷ Gwyn yn gynharach yn yr wythnos fod llywodraethau Israel a gweinyddiaeth yr Arlywydd Biden “yn amlwg yn gweld pethau’n wahanol”.

Dywedodd datganiad gan swyddfa Mr Netanyahu: "Yn ei sgwrs gydag Arlywydd Biden fe wnaeth Prif Weinidog Netanyahu gadarnhau ei bolisi ar ôl i Hamas gael ei ddinistrio fod yn rhaid i Israel ddal rheolaeth diogelwch dros Gaza i sicrhau na fydd Gaza yn peri bygythiad i Israel, angen sy’n gwrth-ddweud y galw am sofraniaeth Palestinaidd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.