Newyddion S4C

Ci gyda chwe choes yn gwella yn dilyn triniaeth

20/01/2024
Ariel y ci

Mae ci gyda chwe coes gafodd ei gadael mewn maes parcio yn Sir Benfro bellach yn gwella yn dilyn triniaeth.

Cafodd Ariel, ci bach sbaniel, ei darganfod yn nhref Penfro ym mis Medi'r llynedd.

Yn dilyn ymgyrch i godi arian mae milfeddygon yng Ngwlad yr Haf wedi llwyddo i gael gwared ar y coesau ychwanegol.

Fe wnaeth elusen Greenacres ofalu am y ci ynghyd â threfnu teulu maeth i ofalu amdani.

Cafodd ei henwi Ariel ar ôl cymeriad yn ffilm Disney The Little Mermaid oherwydd bod ei choesau ychwanegol, oedd wedi asio at ei gilydd, yn ymdebygu i gynffon môr-forwyn yn y ffilm.

Roedd Ariel wedi ei geni gyda’r darnau ychwanegol a chafodd driniaeth gan filfeddygon Langford.

Dywedodd llefarydd ar ran Greenacres: “Diolch i’r drefn fe ddangosodd sganiau nad oedd yna gymhlethdodau ac fe ddaeth dros y driniaeth yn dda.

“Mae’r tîm meddygol yn dweud ei bod hi’n gwella’n dda. Ry' ni gyd yn gobeithio nawr y bydd yn adfer yn gyflym.

Dywedodd Vicki Black o filfeddygon Langford: “Roedd Ariel yn gi bach cymhleth i'w thrin ac roedd rhaid bod yn ofalus gyda nifer o arbenigwyr wrth law ar gyfer y driniaeth.

“Roedd yn bleser ei thrin."

Image
Ariel y ci yn dilyn triniaeth

Prif lun: Facebook/Greenacres

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.