Undebau’n bygwth streiciau i geisio diogelu cynhyrchu dur ym Mhort Talbot
Mae undebau yn bygwth streiciau mewn ymateb i golli swyddi yng ngwaith dur fwyaf y DU ym Mhort Talbot.
Ddydd Gwener fe gadarnhaodd cwmni dur Tata eu bod nhw’n bwriadu bwrw mlaen gyda chynlluniau i gau dwy ffwrnais chwyth er mwyn symud eu gwaith i gynhyrchu dur mewn modd mwy gwyrdd a chynaladwy.
Mae’r cynlluniau yn golygu bydd 2,800 o bobl yn colli eu swyddi yn ogystal ag eraill gyda chwmnïau sy’n cyflenwi’r gwaith.
Mae Tata wedi ymroi i becyn cymorth gwerth £130miliwn i weithwyr fydd yn colli eu swyddi.
Ond mae undebau yn rhybuddio bydd y penderfyniad yn ddinistriol i economi de Cymru yn ogystal â’r diwydiant dur yn ehangach.
Fe fydd yr undebau yn ymgynghori gyda’u haelodau ar sut i ymateb ar ôl i Tata wrthod cynlluniau’r undebau i arbed swyddi.
Dywedodd swyddog cenedlaethol undeb Community: “Mae ein haelodau ym Mhort Talbot yn dioddef heddiw ac yn teimlo bod Tata wedi eu gadael i lawr nawr eu bod wedi cadarnhau eu bwriad i ddilyn llwybr o golli swyddi, sy’n ymgais ofnadwy at ddigarboneiddio a distrywio ein diwydiant dur.
“Mae gweithrediadau Tata yn gwatwar eu gwerthoedd honedig, ac nid ydym ni yn mynd i dderbyn hynny a byddwn yn gofyn i’n haelodau sut i ymateb gan gynnwys gweithredu’n ddiwydiannol.
“Yn y cyfamser mae ein neges i Tata a’r Llywodraeth yn glir; gyda’r buddsoddiad cywir mae yna gyfle i gymryd llwybr gwahanol fydd yn gwarchod swyddi, ein heconomi a’n hamgylchedd.
“Byddwn yn dal i ymladd yr achos – mae gormod yn y fantol i beidio â gwneud hynny.”
Dywedodd Peter Hughes o undeb Unite: “Mae ein haelodau yn ddig a rhwystredig ac yn fodlon gwneud unrhyw beth i warchod gwneud dur ym Mhort Talbot gan gynnwys gweithredu’n ddiwydiannol.
Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak ei fod wedi "ymroi'n llwyr" i gefnogi'r diwydiant dur yn y DU.
Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi ymateb: “Byddwn yn parhau i weithio i ddiogelu dyfodol cynhyrchu dur Cymru a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pawb y mae cyhoeddiad heddiw yn effeithio arnynt.