Newyddion S4C

Carcharu dau am 10 mlynedd am achosi marwolaeth gofalwraig 'hardd a charedig'

19/01/2024
Ella Smith

Mae dau berson ifanc oedd yn dysgu gyrru wedi cael eu carcharu am 10 mlynedd ar ôl i’w "hurtrwydd a’u haerllugrwydd" achosi marwolaeth gofalwraig "hardd a charedig".

Cafodd Jago Clarke ac Emma Price eu dedfrydu i garchar ddydd Gwener am achosi marwolaeth Ella Smith drwy yrru’n beryglus, ac achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus ym mis Mehefin 2021.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Clarke yn gyrru car Ella ar 13 Mehefin 2021, pan darodd i mewn i gerbyd oedd yn dod tuag ato. 

Fe lwyddodd ymchwiliad gan Heddlu Dyfed-Powys i brofi ei fod yn gyrru’n gystadleuol gydag Emma Price wrth iddyn nhw deithio adref o Draeth Broadhaven y diwrnod hwnnw.

Bu farw Ella yn lleoliad y gwrthdrawiad - gwrthdrawiad y bu i'w thad gael ei alw iddo fel diffoddwr tân ar ddyletswydd.

Gan ddisgrifio ei ferch fel un â "gwên hardd, chwerthiniad heintus a chalon lân", siaradodd Adrian Smith yn y llys am y "boen enfawr" y mae’n teimlo ar ôl ei cholli.

“Roedd Ella yn 21, roedd ei bywyd o’i blaen ac mae hi wedi colli cymaint,” meddai.

“Fydd hi byth yn cael cyfle i briodi, fydda i byth yn gallu ei cherdded i lawr yr eil, fydd hi byth yn cael y cyfle i edrych yn anhygoel yn ei ffrog briodas. Ni fydd Ella byth yn dod yn fam ac ni fyddaf byth yn dad-cu i blant Ella.

“Rwy’n hiraethu am Ella bob dydd, am gwtsh, am sgwrs, am sgwrs ar hap,” ychwanegodd. 

“Yr agosaf rwy’n ei gael nawr yw sgwrs bob bore a phob nos gyda’i lludw, lle rydyn ni’n trafod fy niwrnod ac rwy’n dweud wrthi fy mod i’n ei charu, yn rhoi cusan iddi ac yn dweud wrthi hi yw’r seren ddisgleiriaf yn yr awyr.”

Gyrru ar ôl gadael traeth

Clywodd y llys sut y gwelwyd Clarke a Price yn gwyro eu cerbydau ac yn gyrru'n beryglus ar ôl gadael y traeth. 

Nid oedd Ella wedi treulio’r diwrnod gyda’r grŵp, ond roedd wedi mynd i Broadhaven y noson honno pan ofynnodd Clarke iddi am lifft. 

Nid yw ei theulu yn gwybod pam ei fod yn gyrru ei char pan aeth i mewn i gerbyd arall.

Fe achosodd y gwrthdrawiad anafiadau difrifol hefyd i’r teithiwr yn y car arall, Daisy Buck.

Nid oedd y Citroen glas a oedd yn cael ei yrru gan Price yn rhan o'r gwrthdrawiad, ond dangosodd ymchwiliad Heddlu Dyfed-Powys fod y modd yr oedd yn gyrru yn ddigon i’w chyhuddo o achosi marwolaeth Ella.

Dywedodd y Rhingyll Sara John, o Uned Gwrthdrawiadau Difrifol yr heddlu: 

“Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hynod gymhleth o’r cychwyn cyntaf, a oedd yn gofyn i ni gael data telemateg gan gwmni yn yr Eidal. Roedd y trywydd hwn yn cymryd llawer o amser ond yn hanfodol i brofi bod Clarke a Price yn gyrru'n gystadleuol, ac yn y pen draw yn gyrru'n beryglus ar bwynt y gwrthdrawiad.

"Mae'r achos hwn unwaith eto yn enghraifft arall o'r drasiedi a achoswyd i deuluoedd gan haerllugrwydd a hurtrwydd gyrwyr peryglus. Roedd Clarke a Price ill dau yn diystyru diogelwch defnyddwyr eraill ar y ffordd y diwrnod hwnnw, penderfyniad a gostiodd Ella ei bywyd ac a ddinistriodd fywydau ei theulu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.