Newyddion S4C

Carchar i ddyn 22 oed o Gaerdydd am droseddau terfysgaeth

19/01/2024
Kristen Persen

Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am fwy na phedair blynedd am droseddau terfysgaeth ar ôl rhannu fideos propaganda asgell dde eithafol.

Ymddangosodd Kristen Persen, 22 oed o'r Tyllgoed yn Llys y Goron Bryste ddydd Iau, lle cafodd ddedfryd o bedair blynedd ac wyth mis.

Gorchmynnwyd iddo dreulio lleiafswm o ddwy draean o'i ddedfryd yn y carchar.

Roedd Persen wedi ymddangos yn y llys fis diwethaf lle plediodd yn euog i 10 cyhuddiad; chwe chyhuddiad o rhannu deunydd terfysgaeth a phedwar cyhuddiad o gasglu gwybodaeth ar derfysgaeth.

Cafodd ei arestio yng Nghaerdydd ar 30 Tachwedd 2022 yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng Uned Gwrthderfysgaeth Gorllewin Canolbarth Lloegr a Heddlu Gwrthderfysgaeth Cymru.

Ar ei liniadur, daeth ditectifs o hyd i lyfrau cyfarwyddiadau a llawlyfrau ar gyfer cynhyrchu drylliau, ffrwydron a thanwyr yn ogystal â phropaganda goruchafwyr gwyn. 

Canfuwyd deunydd oedd yn clodfori sefydliadau eithafol asgell dde sydd wedi eu gwahardd, yn ymwneud â Natsïaeth, hiliaeth ac ideoleg gwrth-Semitiaeth.

Yn ogystal roedd yr heddlu wedi dod o hyd i nifer fawr o ddillad, baneri a sticeri yn darlunio ac yn cefnogi ideoleg adain dde.

'Bygythiad'

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Williams, Pennaeth Ymchwiliadau Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru: “Rydym yn croesawu canlyniad proses y llys, sy’n ganlyniad ymchwiliad hir a manwl iawn ar y cyd rhwng swyddogion Gwrthderfysgaeth yng Nghymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

“Mae diogelwch a sicrwydd y cyhoedd wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud, ac mae ein swyddogion a’n staff yn gwneud ymdrech fawr i gyflawni’r amcan hwnnw.

"Mae canlyniad yr achos llys yn ein helpu i sicrhau bod hynny’n parhau i ddigwydd."

Ychwanegodd Ditectif Brif Uwcharolygydd dros dro, Anastasia Miller bod unigolion fel Persen yn fygythiad i gymundeau.

“Rydym yn gweithio’n ddiflino i sicrhau euogfarnau unigolion fel Persen sy’n fygythiad sylweddol i gymunedau ledled y wlad," meddai.

“Mae eithafwyr yn defnyddio’r math hwn o ideoleg i greu ofn ymhlith ein cymunedau ac rydym yn ymdrechu i wrthsefyll hyn.

“Mae ein hymdrechion rhagweithiol i fynd i’r afael â’r bygythiad a achosir gan derfysgaeth asgell dde eithafol yn parhau.”

Llun: Heddlu De Cymru
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.