Newyddion S4C

Agor cwest i farwolaeth bachgen saith oed yn Hwlffordd

19/01/2024
Heddlu Hwlffordd

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth bachgen saith oed yn Hwlffordd.

Bu farw Louis Linse yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg ar ôl i’r heddlu gael eu galw i gyfeiriad ar Heol y Farchnad Uchaf ar 10 Ionawr.

Clywodd Llys Crwner Sir Benfro fod archwiliad post mortem wedi’i gynnal, gyda’r llys yn aros am y canlyniadau terfynol.

Mae Papaipit Linse, 42 oed wedi’i chyhuddo o lofruddio'r bachgen saith oed.

Ymddangosodd o flaen Llys y Goron Abertawe ar 16 Ionawr. 

Cafodd ei chadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i'r gwrandawiad nesaf gael ei gynnal ar 27 Chwefror.

Dywedodd swyddog y crwner PC Carrie Sheridan wrth y llys: “Am 10:44 ddydd Mercher 10 Ionawr, derbyniodd yr heddlu alwad ffôn frys yn adrodd am farwolaeth plentyn dan amheuaeth.

“Cafodd ei gludo i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg. Er gwaethaf ymdrechion gorau’r gwasanaethau brys yn y fan a’r lle a staff meddygol yr ysbyty, cyhoeddwyd ei fod wedi marw am 12:00 ddydd Mercher 10 Ionawr.

“Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gan Dr John Williams. Disgwylir canlyniadau terfynol hynny.

“Mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad llawn gydag ymholiadau’n parhau.”

Dywedodd Paul Bennett, uwch grwner dros dro Sir Benfro: “Gofynnir i’r cwest hwn gael ei ohirio tra’n aros am ganlyniad achosion sydd ar y gweill yn yr awdurdodaeth droseddol.

“Hoffwn gyfleu fy nghydymdeimlad i deulu ehangach Louis Linse a dweud pa mor flin ydw i am amgylchiadau trasig y farwolaeth hon sydd wedi cael ei hadrodd i mi.

“Bydd hyn yn cael ei ohirio tra’n aros am ganlyniad achos sy’n parhau gyda’r heddlu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.