Newyddion S4C

Storm Isha: Miloedd heb drydan yn sgil gwyntoedd cryfion

21/01/2024
Gwyntoedd cryfion

Mae miloedd o bobl ar hyd Cymru heb drydan ddydd Sul yn sgil difrod gan storm Isha.

Mae adroddiadau hefyd fod coed wedi disgyn gan gau ffyrdd ar draws Cymru wrth i wyntoedd cryfion daro'r wlad.

Mae rhybudd oren am wyntoedd cryfion mewn grym drwy nos Sul. 

Fe gafodd gwynt o 90mya ei gofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri yn gynharach yn y dydd.

Fe fydd y rhybudd oren mewn grym o 18.00 ddydd Sul hyd at 09.00 fore Llun.

Cliciwch yma am fanylion y Grid Cenedlaethol yn eich ardal chi.

Mae manylion yma am ogledd Cymru.

Mae rhybudd melyn am law trwm hefyd wedi'i gyhoeddi ar hyd y wlad, a ddaeth i rym am 00.00 fore Sul ac yn ymestyn hyd at 06.00 fore Llun.

Prynhawn dydd Sul fe gyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru rhybudd llifogydd melyn 'Byddwch yn barod' ar gyfer 13 ardal ar draws Cymru.

Roedd toriadau ar gyflenwadau trydan ar draws de orllewin Cymru am amser brynhawn Sul. 

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai’r tywydd garw beryglu bywyd, gyda disgwyl tonnau mawr ar hyd yr arfordir. 

Bydd disgwyl i’r gwyntoedd cryfion gyrraedd hyd at 80mya ar hyd yr arfordir, ond bydd disgwyl gwyntoedd rhwng 50-60mya i’r mwyafrif o ardaloedd. 

Mae disgwyl i rai ffyrdd a phontydd fod ar gau, gyda’r gwyntoedd cryfion hefyd yn achosi oedi ar y ffyrdd ac i drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae Pont Britannia rhwng Gwynedd a Môn wedi cau i holl draffig rhwng 16:00 ddydd Sul a hanner nos oherwydd gwyntoedd uchel, ac fe fydd rhan o ffordd yr A5 ar gau rhwng Capel Curig a Pentrefoelas oherwydd llifogydd.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn annog unigolion i aros adref ddydd Sul ac i osgoi gyrru os oes modd gwneud hynny. 

Maen nhw hefyd rhybuddio y gallai difrod gael ei achosi i rai adeiladau a thai, ac i baratoi at golli cyflenwad pŵer am gyfnod. 

Siroedd

Mae’r rhybudd oren yn berthnasol i’r siroedd canlynol:

Blaenau Gwent

Pen-Y-Bont ar Ogwr

Caerffilli

Caerdydd

Caerfyrddin

Ceredigion

Conwy

Gwynedd

Ynys Môn

Merthyr Tudful

Sir Fynwy

Castell-nedd Port Talbot

Casnewydd

Sir Benfro

Powys

Rhondda Cynon Taf

Abertawe

Torfaen

Bro Morgannwg

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.