Newyddion S4C

Cwpan Nathaniel MG: Y Seintiau Newydd a Thîm dan 23 Abertawe yn brwydro am y tlws

Sgorio 20/01/2024
Seintiau Newydd Abertawe

Nos Sadwrn bydd clwb mwyaf llwyddiannus Cwpan Cynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd yn wynebu tîm ieuenctid Abertawe, fydd yn gobeithio codi Cwpan Nathaniel MG am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill Cwpan y Gynghrair ar naw achlysur, yn cynnwys rhediad o 19 buddugoliaeth yn olynol yn y gystadleuaeth rhwng 2014 a 2018, ond dyw cewri Croesoswallt heb godi’r tlws ers tymor 2017/18.

Cyn dechrau’r tymor hwn doedd y Seintiau heb ennill gêm yn y gystadleuaeth ers Hydref 2018, gan golli bedair gwaith yn olynol (vs Cambrian a Clydach, Bangor, Penrhyncoch a Cei Connah).

Ers eu llwyddiant diwethaf yn 2018, Met Caerdydd (18/19), Cei Connah (19/20 a 21/22), a’r Bala (22/23) sydd wedi cael eu dwylo ar y cwpan - doedd dim cystadleuaeth yn 20/21 oherwydd Covid.

Ond bellach, mae’r Seintiau yn ôl i’w hen arferion ar ôl curo Cei Connah, Porthmadog, Gresffordd a Chegidfa i gyrraedd y rownd derfynol eleni.

Mae’r Seintiau Newydd wedi mynd ar rediad o 32 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth am y tro cyntaf ers 2017, ac wedi ennill 24 gêm yn olynol gan dorri 15 pwynt yn glir o Gei Connah ar frig y gynghrair.

Yn ogystal â sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG, mae’r Seintiau hefyd wedi camu ymlaen i bedwaredd rownd Cwpan Cymru ac i rownd gynderfynol Cwpan Her yr Alban.

Dyma rediad gorau’r clwb o Groesoswallt ers Awst 2016 i Chwefror 2017 (31 gêm heb golli), ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe dorron nhw record y byd gyda 27 buddugoliaeth yn olynol.

Bydd criw Craig Harrison yn benderfynol o dorri’r record hwnnw, ac i guro eu rhediad blaenorol o 39 gêm gystadleuol heb golli rhwng Awst 2014 ac Ebrill 2015.

Yr Elyrch yn disgleirio

Am y tro cyntaf eleni fe wahoddwyd timau dan 21 Abertawe a Chaerdydd i gystadlu yng Nghwpan Nathaniel MG, ac mae’r Elyrch wedi disgleirio’n y gystadleuaeth gan gyrraedd y rownd derfynol ar y cynnig cyntaf.

Mae’r Elyrch ifanc wedi curo Caerfyrddin, Caerau Trelai, Caerdydd d21, Llansawel a Met Caerdydd i gyrraedd y rownd derfynol, gan ennill ar giciau o’r smotyn yn erbyn Caerdydd d21 a Met Caerdydd. 

Mae Abertawe dan 21 yn cystadlu yn y Gynghrair Datblygu Broffesiynol (Professional Development League), sef yr ail haen ar gyfer timau ieuenctid, ac mae’r garfan yn mwynhau tymor llwyddiannus ac yn eistedd yn ail yn nhabl y de y tu ôl i Bournemouth dan 21.

Bydd hi’n her wahanol i’r arfer i’r ddau glwb wrth i’r Seintiau Newydd wynebu tîm llawn amser am y tro cyntaf ers curo tîm ieuenctid Hibernian ym mis Awst, ac Abertawe dan 21 yn amlwg yn herio chwaraewyr fydd dipyn yn hŷn ac yn fwy profiadol.

Fe wnaeth Y Seintiau Newydd groesawu tîm cyntaf Abertawe i Groesoswallt yn rownd gynderfynol yr ‘FAW Premier Cup’ yn 2004/05, ac ar ôl gêm gyfartal 1-1 yr Elyrch oedd yn fuddugol ar giciau o’r smotyn yn y pen draw gyda Steve Evans a Michael Wilde yn methu a churo Brian Murphy o 12 llath. 

Ond mae hynny’n hen hanes bellach, ac mi fydd hi’n stori wahanol yn erbyn y bechgyn ifanc fydd yn ceisio achosi sioc a rhwystro’r Seintiau Newydd rhag cael gafael ar y cwpan am y 10fed tro yn eu hanes.

Bydd yr holl gyffro’n fyw ar S4C am 17:15 yng nghwmni Dylan Ebenezer, Sioned Dafydd, Owain Tudur Jones, Nic Parry ac Emlyn Lewis.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.