Newyddion S4C

Blanced wen o eira yn disgyn mewn rhannau o Gymru

19/01/2024

Blanced wen o eira yn disgyn mewn rhannau o Gymru

Fel blanced wen, dyma'r realiti yn Sir Benfro bore 'ma wrth i loriau a cheir straffaglu i deithio ar hyd y ffyrdd gydag ambell un yn gorfod derbyn help llaw.

Ym Mynachlog-ddu ger Crymych, roedd hyd at 5cm o eira ar lawr a 22 o ysgolion y sir hefyd ar gau o ganlyniad gan gynnwys Ysgol Uwchradd Bro Preseli ac Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd.

Neithiwr oedd y noson oeraf o'r gaeaf i'r wlad brofi hyd yn hyn.

Ynghyd a Sir Benfro, roedd Gwynedd ac yma yng Ngheredigion ymysg y siroedd ga'th eu heffeithio waethaf gan yr eira bore 'ma, ac er nad oedd gymaint yn Sir Gar roedd yr effaith yn glir ar y mart yng Nghastellnewydd Emlyn.

O'n i'n siarad 'da un neu ddau bore 'ma, ro'n nhw'n moyn dod ag wyn ond ro'n nhw'n ffaelu cael trelar mas, dim ond pickup.

Bach o siom rili. Y lloi oedd gyda ni i werthu heddi achos bod ddim gymaint i gael yma, mae'r trade nol.

Mae'r rheiny'n weddol siomedig ar y trade ond beth allwch chi neud?

'Na un rheswm pam fi 'ma - o'n i'n gobeithio cael bargen heddi ond 'sa i'n credu bod e'n mynd i ddigwydd.

'Sdim lot o anifeiliaid i gael yma heddi. 'Sech chi 'ma wythnos diwethaf, byddai ciw mas o'r mart.

Heddi, mae lot llai o bobl wedi troi mas mwy na thebyg achos o'r tywydd lot o waith ar y ffarm gartre 'da pobl i feedio mas a bach mwy o ofal.

Digwydd bod dim tancer llaeth gyda ni heddi.

Falle byddai hi bach yn slic i gael y tancer llaeth heddi ond na.

Mae'n siŵr fod ffwdan i gael ambiti'r lle ond gallwn i byth â achwyn.

A pheidio achwyn oedd plant ledled Cymru hefyd gyda dros 65 o ysgolion ar gau ar draws y wlad i gyd.

Ac er nad oes rhybudd melyn mewn grym bellach parhau yn ddigon anodd mae'r amodau i deithwyr mewn rhannau o'r wlad a rhybudd Traffic Cymru'n parhau yn yr un modd.

Gyrrwch gyda gofal a byddwch yn ofalus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.