Newyddion S4C

Penodi’r esgob ieuengaf yn hanes yr Eglwys yng Nghymru ym Mangor

19/01/2024
Esgob David Morris

Mae'r esgob ieuengaf yn hanes yr Eglwys yng Nghymru wedi ei benodi ym Mangor.

Mae’r Parchedig Ganon David Morris, sydd yn 37 oed, wedi ei benodi’n Esgob Cynorthwyol Bangor.

Fe gafodd David Morris ei benodi gan Andrew John, Archesgob Cymru ac Archesgob Bangor.

Yn aelod uwch o staff Esgobaeth Bangor, mae David wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Gweinidogaeth yr Esgobaeth am y ddwy flynedd diwethaf. Mae hefyd yn Ganon Preswyl Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.

Yn wreiddiol o Gymer yng Nghwm Rhondda, graddiodd David mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor ac fe wnaeth hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, pan wnaeth hefyd gwblhau gradd Meistr mewn diwinyddiaeth. 

Fe’i hordeiniwyd yn offeiriad yn 2010 yng Nghadeirlan Llandaf.

Dywedodd David,: “Mae cael galwad i wasanaethu fel Esgob Cynorthwyol Esgobaeth Bangor y fraint fwyaf bosibl.

“Astudiais ddiwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor ac ers i mi ddychwelyd i’r esgobaeth yn 2022, mae fy nghariad at y rhan arbennig iawn yma o’r byd a’i bobl wedi tyfu’n ddyfnach byth.

"Mae’r straeon ysbrydoledig o ffydd a gwasanaeth a glywais ar draws ein cymunedau’r eglwys wedi cael effaith fawr arnaf ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at chwarae fy rhan wrth helpu’r cymunedau hyn i dyfu a ffynnu.”

'Cyfraniad gwych'

Fe wasanaethodd David fel curad ym Merthyr Tudful, cyn gwasanaethu fel offeiriaid plwyf Grangetown yng Nghaerdydd. Fe gafodd swydd yn esgobaeth Llandaf am dair blynedd, cyn dychwelyd i’r gogledd.

Cafodd penodiad David ei gymeradwyo gan holl esgobion yr Eglwys yng Nghymru a chaiff ei gadarnhau mewn cyfarfod Synod Sanctaidd ym mis Ebrill. Caiff ei gysegru fel esgob yn nes ymlaen yn y flwyddyn a bydd yn defnyddio teitl Esgob Ynys Enlli, yn ogystal ag Esgob Cynorthwyol Bangor.

Wrth gyhoeddi ei benodiad, dywedodd yr Archesgob Andrew John: “Rwy’n hynod falch bod David wedi derbyn y penodiad hwn i helpu symud ymlaen gyda gwaith yr Eglwys yn Esgobaeth Bangor, lle cafodd ei alwedigaeth ei hun fel offeiriad ei ffurfio.

“Mae eisoes wedi gwneud cyfraniad gwych i fywyd yr esgobaeth, ac rwy’n gwybod y bydd yn rhoi arweinyddiaeth ysbrydoledig a gofal bugeiliol dwfn i’n cynulleidfaoedd a’r cymunedau a wasanaethant.

"Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r Eglwys, a gwn y bydd gan David rôl bwysig tu hwnt wrth symud y gwaith ymlaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.