Apêl wedi i ddyn farw ar ôl gwrthdrawiad yn Wrecsam
Mae'r heddlu yn apelio am lygaid-dystion wedi i ddyn farw ar ôl gwrthdrawiad ffordd yn Wrecsam.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw am 01:20 fore Gwener wedi adroddiadau am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A483 rhwng cerbyd Ford glas a cherbyd nwyddau trwm.
Bu farw gyrrwr y fan yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu agos wedi cael gwybod yn ogystal â'r crwner.
Mae'r Sarjant Alun Jones o Uned Troseddau Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion.
"Rydym bellach yn ymchwilio i wrthdrawiad ffordd angheuol ac mae ein meddyliau ni gyda theulu'r dyn yn ystod y cyfnod anodd yma," meddai.
"Rydym yn erfyn ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A483 neu yn agos at Wrecsam i gysylltu gyda ni.
"Mae'r ffordd yn parhau ar gau er mwyn caniatáu i'r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Fforensig gynnal eu hymchwiliad cychwynnol a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd.”
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod Q008585.