Newyddion S4C

Ymchwiliad i'r heddlu wedi i blentyn dwy flwydd oed 'newynu i farwolaeth' ger corff ei dad

19/01/2024
Bronson Battersby

Fe fydd corff gwarchod yr heddlu yn ymchwilio a oedd "unrhyw gyfleoedd a gafodd eu colli" gan swyddogion yn dilyn marwolaeth plentyn dwy flwydd oed a gafodd ei ddarganfod wedi ei 'newynu i farwolaeth' ger corff ei dad.

Cafodd Bronson Battersby o Skegness yn Sir Lincoln ei ganfod yn ei ddillad cysgu ger ei dad, Kenneth, bythefnos ar ôl i’r ddau gael eu gweld yn fyw am y tro diwethaf. 

Y gred yw fod Kennneth wedi marw rhwng Nadolig a'r flwyddyn newydd gan adael Bronson heb fynediad at fwyd na dŵr yn eu cartref.

Dywedodd Cyngor Sir Lincoln fod y bachgen bach dan ofal y gwasanaethau cymdeithasol plant ar y pryd, ac fe wnaeth gweithwyr cymdeithasol geisio ymweld â’r eiddo ar 2 Ionawr. 

Roedd ymweliad arall deuddydd yn ddiweddarach ond doedd dim ateb wrth y drws.

Ddyddiau yn ddiweddarach, fe gafodd gweithiwr cymdeithasol fynediad i'r cartref gan ddarganfod y tad a'r mab yn farw.

Cadarnhaodd y Swyddfa Annibynnol i Ymddygiad yr Heddlu ddydd Iau eu bod nhw'n ymchwilio i weithredoedd Heddlu Sir Lincoln.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol yr IOPC, Derrick Campbell: “Mae amgylchiadau dirdynnol marwolaethau Kenneth a Bronson Battersby yn wirioneddol ysgytwol. Rydym yn cydymdeimlo gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan eu marwolaethau.

"Mae'n addas ein bod yn cynnal ymchwiliad annibynnol i ystyried ymateb yr heddlu i unrhyw bryderon lles a gafodd eu codi.

"Byddwn yn ymchwilio i weld a oedd unrhyw gyfleoedd a gafodd eu colli gan yr heddlu i fynd i ymweld â  Mr Battersby a Bronson yn gynt."

'Annwyl'

Dywedodd ei fam, Sarah, aeth i gadarnhau mai ei mab Bronson oedd wedi marw: “Doeddwn i ddim yn gallu ei godi oherwydd bod ei gorff mor fregus. 

“Yr oll oeddwn i'n gallu ei wneud oedd cyffwrdd ag o. Roedd o wedi cael ei adael am gyfnod rhy hir."

Mewn cyfweliad â phapur newydd The Sun, cafodd y bachgen bach ei ddisgrifio fel plentyn “annwyl” gan ffrind i’r teulu. 

Dywedodd: “Mae’n dorcalonnus. Roedd Bronson yn haeddu cymaint, cymaint mwy.

“Fe gafodd ei ganfod wedi’i gyrlio fyny wrth goesau Kenneth. Cafodd ei adael yn y tywyllwch ac mae'n rhaid ei fod wedi bod llawn ofn a dryswch. 

“Mae’n debyg ei fod yn meddwl bod ei dad yn cysgu… Roedd o bob tro'n gwenu ac roedd o mor annwyl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.