Newyddion S4C

Marwolaeth Ruth Perry: Caniatáu i brifathrawon oedi arolygiadau ysgol

19/01/2024
s4c

Bydd arweinwyr ysgolion yn Lloegr yn gallu atal archwiliadau Ofsted os ydi staff yn dangos arwyddion o straen dan ganllawiau newydd.

Daw hyn wedi i grwner alw am newid yn dilyn hunanladdiad y brifathrawes Ruth Perry.

Penderfynodd fod arolygiad Ofsted yn “debygol o fod wedi cyfrannu” at farwolaeth y brifathrawes Ruth Perry ym mis Tachwedd 2022.

Wrth gofnodi rheithfarn o hunanladdiad, dywedodd y crwner fod yna "ddiffyg tegwch, parch, a sensitifrwydd" yn yr arolwg o ysgol Ruth Perry yn Reading.

Mae disgwyl i Ofsted gyhoeddi polisi newydd ar oedi adolygiad ysgol lle mae "problem ddifrifol wedi cael ei darganfod" fel rhan o'i ymateb i adroddiad y crwner Heidi Connor.

Ofsted sy’n arolygu ysgolion yn Lloegr, tra bod Estyn yn gwneud yr un gwaith yng Nghymru.

'Tristwch'

Roedd effaith ar les y prifathro ymysg y pryderon oedd gan y crwner yn ogystal â "diffyg hyfforddiant gan Ofsted" ar gyfer arolygwyr wrth edrych am arwyddion o straen gan arweinwyr ysgol.

Fe fydd y polisi newydd yn cael ei gyhoeddi cyn ddydd Llun, pan y bydd disgwyl y bydd Ofsted yn ailddechrau arolygiadau wedi iddynt gael eu gohirio yn gynharach yn y mis fel bod arolygwyr yn gallu derbyn hyfforddiant iechyd meddwl. 

Mae Ofsted wedi addo i "weithredu bob amser gyda phroffesiynoldeb, cwrteisi, empathi a pharch" mewn ymateb i'r adroddiad i atal marwolaethau yn y dyfodol.

Dywedodd chwaer Mrs Perry, Yr Athro Julia Waters ei bod yn siomedig bod y Llywodraeth wedi penderfynu i barhau i ganiatau i Ofset gyhoeddi dyfarniadau un gair fel rhan o'u system graddio ysgolion, e.e. 'annigonol', "sy'n gamarweiniol a niweidiol".

Ychwanegodd prif arolygydd Ofsted Syr Martin Oliver: "Fel cyd -bennaeth, fe ges i fy synnu gyda thristwch gan farwolaeth Ruth Perry.

“Fel y prif arolygydd newydd, rwy'n benderfynol o wneud popeth yn fy ngallu i atal trasiedïau o'r fath yn y dyfodol. 

"Rydym yn derbyn canfyddiadau'r crwner ac wedi ymateb i argymhellion ei hadroddiad yn llawn."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.