Degau o ysgolion ar gau yng Nghymru fore Gwener o ganlyniad i rew ac eira
Mae dros 60 o ysgolion ar gau eto fore Gwener mewn rhannau o Gymru oherwydd pryderon am eira a rhew.
Daeth cadarnhad bod yna ysgolion ar gau yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych a Sir Benfro.
Mae modd dod o hyd i fanylion ysgolion sydd ar gau yma:
• Gwynedd
• Conwy
Inline Tweet: https://twitter.com/CSCeredigion/status/1748265636164149654?s=20
Yng Ngwynedd roedd pedair ysgol ar gau gan gynnwys yr ysgolion uwchradd Syr Hugh Owen, Caernarfon ac Ysgol Tryfan, Bangor.
Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin fore Gwener fod tair ysgol ar gau yn y sir, ac roedd 30 ar gau yn Sir Benfro hefyd.
Inline Tweet: https://twitter.com/cyngormon/status/1748260617859797100?s=20
Daw wrth i rybudd melyn am iâ barhau mewn grym nes 10yb ar draws gogledd, canolbarth a gorllewin Cymru.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd yna rai ardaloedd rhewllyd ar rai ffyrdd, palmentydd a llwybrau beicio heb eu trin.
Fe allai yna fod rhai anafiadau oherwydd llithro a chwympo ar arwynebau rhewllyd, medden nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran Ysgol y Fair Ddihalog, Hwlffordd, bod “yr holl balmentydd cyhoeddus sy'n arwain at yr ysgol eisoes yn llithrig iawn, wedi'u gorchuddio ag eira a rhew”.
“Gyda’r rhagolygon y bydd y tymheredd yn parhau o dan y rhewbwynt nes 10yb bore fory, rydym yn bryderus y bydd disgyblion, teuluoedd a staff mewn perygl mawr o gael damwain wrth ddod i’r ysgol.”
Dywedodd Ysgol Bro Teifi yn Llandysul, Ceredigion eu bod nhw hefyd wedi penderfynu cau.
"Mae amodau peryglus ar y campws gydag eira wedi rhewi yn galed ar y maes parcio a'r iard dros nos," medden nhw.
"Mae amodau teithio anodd i rai hefyd yn golygu bod lefelau staffio yn mynd i fod yn heriol iawn."
Ddydd Iau roedd ysgolion ar gau yng Ngwynedd, Ynys Môn, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Rhybudd melyn
Mae’r rhybudd melyn am iâ yn effeithio ar y siroedd canlynol nes 10yb:
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Sir Benfro
- Powys
- Wrecsam
Rhagor i ddilyn...
Llun gan Vashti Zarach.