Newyddion S4C

Bron i 100 o swyddi dan fygythiad ym Mhowys

18/01/2024
Control Techniques

Mae bron i 100 o swyddi yn y fantol yn y Drenewydd ym Mhowys.

Mae cwmni Control Techniques, a ddathlodd 50 mlynedd o fodolaeth yn 2023, yn cynhyrchu cyfarpar gyriant i ddiwydiant yn enwedig ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddol.

Dywedodd y cwmni nos Iau eu bod nhw'n cychwyn cyfnod o ymgynghori am newidiadau fydd yn effeithio staff yn eu ffatri yn y dref. Gallai hyd at 98 o swyddi gael eu colli.

Ychwanegodd y cwmni eu bod nhw wedi cynyddu nifer y swyddi yn y ffatri er mwyn "delio gyda chynnydd digynsail yn dilyn y pandemig". 

Ond, dywedodd y cwmni, fod “y farchnad ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn y DU ac Ewrop yn fflat, sy’n golygu fod yn rhaid i ni ail fantoli ein gallu i gynhyrchu er mwyn parhau i fod yn gystadleuol yn y dyfodol".

Dywedodd Martyn Cray, is-lywydd gweithrediadau byd eang y cwmni: “Mae'r farchnad wedi bod yn hynod o anwadal yn ddiweddar wrth i gwsmeriaid  ymateb i ansicrwydd yn y gadwyn gyflenwi. Mae hyn wedi gwneud cynllunio capasiti cynhyrchu'n arbennig o anodd.

"Rydym yn drist  i orfod cymryd y camau yma heddiw ac rydym wedi oedi cyn hir â phosib wrth i ni geisio hyder yn y farchnad.

"Byddwn yn dal i fuddsoddi yn ein cyfleusterau ac yn ein pobl er mwyn cefnogi ein hamcanion i dyfu yn y dyfodol.”

Dywedodd Anthony Pickering, llywydd y cwmni: “Rwy’n gwybod bydd hyn yn gyfnod anodd a chythryblus i’r staff sy’n cael eu heffeithio a’u teuluoedd. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n pwyllgor staffio a’r llywodraeth ar lefel cenedlaethol a lleol i sicrhau ein bod yn darparu cymaint o gymorth a phosib yn ystod y broses yma."

Ychwanegodd y cwmni y byddan nhw’n "gwneud pob ymdrech i gyflawni unrhyw colli swyddi trwy broses gwirfoddol a bydd pecyn cynhwysfawr ar gael".

Llun: Facebook/Control Techniques

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.