Newyddion S4C

Croesawu cynllun taliadau i ffermwyr organig Cymru

ffermio organig

Mae mudiad sy'n cefnogi ffermio organig wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd cefnogaeth ariannol i'r sector yn parhau wedi'r cyfan.

Y  llynedd, roedd y Soil Association wedi mynegi pryder y byddai ffermwyr a busnesau organig yng Nghymru yn colli £3.1 miliwn mewn cefnogaeth ariannol.

Ond bellach mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen newydd ar gyfer 2024, cyn sefydlu'r Cynllun Ffermio Cynaladwy yn 2025.

Dywedodd pennaeth polisi y Soil Association yng Nghymru, Andrew  Tuddenham; "Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar ein tystiolaeth.

"Roedd y cynllun i ddiddymu'r cyllido yn fygythiad enfawr i nifer o fusnesau, a byddai wedi gwastraffu buddsoddiad y llywodraeth ei hun mewn pridd iach, ffermydd sy'n gyforiog o fyd natur, a busnesau bwyd arloesol."

'Ymdrech enfawr'

Ond rhybuddiodd Mr Tuddenham y byddai lleihad mewn rhai taliadau, a hynny ar adeg pan mae ffermwyr yn wynebu cynnydd sylweddol mewn costau a bygythiad newid hinsawdd.

"Rydym eisiau gweld y Cynllun Ffermio Cynaladwy yn adeiladu ar gyhoeddiad heddiw gyda chynlluniau uchelgeisiol fydd yn sbarduno symudiad eang tuag at ffermio gwydn, sy'n dda i fyd natur ledled Cymru," meddai.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths ei bod hi'n gwerthfawrogi'r "ymdrech enfawr gan ffermwyr organig i adeiladu busnesau sy'n gynaladwy yn amgylcheddol ac yn ariannol." 

Dywedodd  mai bwriad y taliadau oedd i gefnogi'r sectorau lle roedd Llywodraeth Cymru'n credu y byddai'n cael yr effaith  mwyaf  cadarnhaol ar yr amgylchedd.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.