Cyngor Sir Caerffili i dorri nôl ar ladd gwair er gwaethaf cwynion
Fe fydd Cyngor Sir Caerffili yn torri llai o wair eleni er mwyn hybu byd natur, er gwaethaf cwynion y llynedd.
Dywedodd y Cyngor mai nod y cynllun oedd gadael i nifer o ardaloedd o wair i “ffynnu” er mwyn “cynyddu a hybu bioamrywiaeth”.
Fe fydd y Cyngor hefyd yn hau hadau blodau gwyllt ar draws y sir.
Fe ddaw’r polisi i rym yn y gwanwyn, er i’r cyngor dderbyn cwynion y llynedd fod yr ardaloedd oedd wedi eu gadael yn wyllt wedi creu sbwriel, gan adael ardaloedd mewn ystadau tai wedi gordyfu.
Dywedodd cabinet y cyngor eu bod nhw'n ymwybodol o'r cwynion a bydd mwy o dorri gwair mewn ystadau tai eleni.
'Newidiadau'
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan fod y naturiaethwr Iolo Williams wedi canmol ardaloedd “gwyllt” y sir.
Ychwanegodd y Cynghorydd Sean Morgan, arweinydd y Cyngor fod gan “bawb farn wahanol” ar sut i dorri gwair.
Dywedodd fod yn rhaid i’r Cyngor wynebu her bioamrywiaeth a'u bod wedi gwneud “newidiadau sylweddol” yn dilyn cwynion y llynedd.