Newyddion S4C

'Amheuon sylweddol' am gynllun i newid y system bleidleisio yng Nghymru

19/01/2024
David Rees / Senedd

Mae "amheuon sylweddol" am gynlluniau Llywodraeth Cymru i newid y system bleidleisio erbyn etholiad nesaf y Senedd.

Mae pryderon y gallai dylanwad pleidiau gwleidyddol “gael blaenoriaeth dros ddewis pleidleiswyr”, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Yn ôl adroddiad gan y pwyllgor sy’n craffu ar y cynlluniau, roedd aelodau yn “unfrydol” yn eu pryderon y gallai'r system bleidleisio rhestr gaeedig leihau'r dewis i bleidleiswyr.

Byddai’r cynigion presennol ar gyfer rhestr gaeedig yn golygu mai dim ond rhwng ymgeiswyr penodol sy’n sefyll dros blaid wleidyddol, neu rhwng pleidiau ac ymgeiswyr annibynnol, y byddai pleidleiswyr yn gallu dewis.

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan nifer o arbenigwyr y byddai hyn yn lleihau’r dewis sydd ar gael, ac y byddai risg “o anfodlonrwydd ymhlith pleidleiswyr”.

Roedd aelodau'r pwyllgor yn ffafrio cael rhestrau agored neu hyblyg, neu'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy.

Byddai system agored yn galluogi i bleidiau gwleidyddol flaenoriaethu eu hymgeiswyr, gan roi'r hawl i bleidleiswyr ddewis pa ymgeisydd penodol ar restr plaid y maen nhw am ei gefnogi; tra bod y system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn caniatáu i bleidleiswyr restru ymgeiswyr yn y drefn o’u dewis.

Mae adroddiad y  pwyllgor yn annog yr holl Aelodau o’r Senedd i gydweithio i ddod i gytundeb ar newidiadau i’r system bleidleisio.

Dywedodd David Rees, AS, cadeirydd y pwyllgor:  “Rydym yn unedig yn ein pryderon am yr effaith y byddai’r system bleidleisio y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig yn ei chael ar allu pleidleiswyr i ddewis pwy sy’n eu cynrychioli. 

“Mae cael y system etholiadol yn gywir yn sylfaenol i iechyd democratiaeth yng Nghymru, ac mae gennym amheuon sylweddol ynghylch a yw etholiadau rhestr gaeedig yn cynrychioli cam cadarnhaol ymlaen.

“Os bydd y Senedd yn pleidleisio o blaid y Bil yn y cyfnod cyntaf ar ddiwedd y mis, rydym yn annog pob plaid wleidyddol i gydweithio i sicrhau bod y system etholiadol yn y Bil yn rhoi mwy o ddewis i bleidleiswyr ac yn gwneud Aelodau’r dyfodol yn fwy atebol i’w hetholwyr.”

Ehangu'r Senedd

Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) hefyd yn cynnig cynyddu nifer yr Aelodau o 60 i 96. Er bod y rhan fwyaf o'r Pwyllgor yn fodlon â'r cynnig hwn, roedd un aelod o’r farn nad oedd modd cyfiawnhau’r newid.

Roedd tystiolaeth a roddwyd i’r Pwyllgor yn dadlau bod cyfrifoldebau’r Senedd mewn meysydd fel trafnidiaeth, datblygu economaidd, rheilffyrdd a threthiant wedi cynyddu ers 1999 a bod angen mwy o aelodau i ddarparu lefel dda o graffu.

Clywodd y pwyllgor y byddai mwy o gynrychiolwyr yn gwella gallu’r sefydliad ac yn rhoi mwy o gyfle i Aelodau o’r Senedd ganolbwyntio ar feysydd penodol a datblygu gwybodaeth arbenigol.

 Ond dydi pob aelod o'r pwyllgor ddim o blaid y cynnydd.

Bydd y Bil yn cael ei drafod yn y Senedd ar 30 Ionawr, lle bydd Aelodau’n pleidleisio ynghylch a fydd y Bil yn symud ymlaen i’r cam craffu nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.