Newyddion S4C

Fujitsu am gyfrannu at iawndal is-bostfeistri

18/01/2024
Swyddfa Bost

Mae cwmni Fujitsu wedi cadarnhau eu bod am gyfrannu at iawndal i is-bostfeistri gafodd eu herlyn ar gam yn sgil sgandal y Swyddfa Bost.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni eu bod eisiau "ymddiheuro o waelod calon"  i'r cannoedd o is-bostfeistri wnaeth ddioddef yn sgil nam ar sustem gyfrifiadurol.

Roedd meddalwedd y sustem, o'r enw Horizon, wedi ei  greu gan Fujitsu. Ond dros gyfnod o rhai blynyddoedd, achosodd i filiynau o bunnau ddiflannu o swyddfeydd post, gyda'r canlyniad fod is-bostfeistri wedi eu cyhuddo ar gam o ddwyn neu twyll.

Cafodd dros 700 o bobl eu herlyn, gyda nifer yn mynd i garchar.

Dywedodd Fujitsu y byddan nhw'n cyd-weithio gyda Llywodraeth y D.U i drafod eu hymateb, gan gynnwys cyfrannu at daliadau iawndal.

"Mae Grwp Fujitsu yn ystyried y mater yma fel un difrifol iawn, ac yn cynnig ymddiheuriadau o waelod calon i is-bostfeistri a'u teuluoedd," meddai datganiad gan y cwmni.

Dywedodd y Gweiniodg yn Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU, Alex Burghart, na fydd Fujitsu yn ceisio am gytundebau gyda'r llywodraeth tra bod  yr ymchwiliad cyhoeddus i sgandal y Swyddfa Bost yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.