Newyddion S4C

Cynllun i ehangu ysgol Gymraeg yn Sir Fynwy oherwydd cynnydd yn y galw

18/01/2024
Ysgol Gymraeg Y Fenni

Mae cynlluniau ar y gweill i symud ysgol gynradd Gymraeg yn Sir Fynwy i safle mwy.

Mae’r cyngor sir wedi  dechrau ymgynghori ar gynlluniau i symud Ysgol Gymraeg Y Fenni i safle mwy er mwyn dygymod â’r cynnydd mewn niferoedd.

Mae gan yr ysgol 254 o ddisgyblion ar hyn o bryd, gyda  lle i 317.  Ond yn ôl y Cyngor, mae mwyafrif y llefydd hynny mewn dosbarthiadau dros dro sy’n cael eu rhentu.

Dywedodd y Cyngor nad yw’r ysgol yn cyrraedd eu “dyheadau o ddarparu amgylcheddau dysgu ac addysgu rhagorol”.

Fe gychwynnodd yr ysgol 30 mlynedd yn ôl gyda 12 o ddisgyblion.

Fe fydd y Cyngor nawr yn ymgynghori ar gynllun arfaethedig i symud yr ysgol i safle'r hen ysgol gynradd Deri View, sydd hefyd yn y Fenni. Fe gaeodd Deri View er mwyn ffurfio ysgol pob oed 3-19 gydag Ysgol Gyfun King Henry.

Dywedodd y Cyngor y bydd ail-leoli i Deri View yn galluogi Ysgol Y Fenni i gynyddu niferoedd i 420 yn ogystal â darparu 60 lle ar gyfer darpariaeth feithrin.

Mae’r Cyngor eisoes wedi neilltuo £1miliwn a bydd y cyfnod ymgynghori yn cychwyn ar 29 Ionawr ac yn ymestyn hyd nes 11 Mawrth.

Penderfyniad

Fe fydd Cabinet y cyngor sir yn gwneud penderfyniad ym mis Gorffennaf gyda disgyblion ac athrawon yn symud o Ebrill 2025.

Dywedodd Martyn Groucutt, aelod cabinet dros addysg: “Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant addysg Gymraeg yn ardal Y Fenni. Y gobaith yw symud Ysgol Gymraeg Y Fenni i mewn i’w pedwerydd adeilad. Adeilad sy’n fodern a medrwn wario ychydig o arian er mwyn iddo edrych yn well nag y mae yn barod fydd yn gosod addysg cyfrwng Cymraeg mewn safle cryf iawn yng ngogledd orllewin Sir Fynwy.”

Ychwanegodd y cyngor eu bod nhw’n cefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 ac yn “anelu am 115 o ddysgwyr ym mhob grŵp blwyddyn yn y cynradd yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2031".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.