Rio Dyer yn arwyddo cytundeb newydd gyda'r Dreigiau
Mae asgellwr Cymru Rio Dyer wedi rhoi hwb i'r Dreigiau drwy arwyddo cytundeb newydd.
Roedd y chwaraewr 24 oed yn rhan o'r garfan yng Nghwpan y Byd y llynedd ac fe gafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad yr wythnos hon.
"Mae'n foment falch i mi arwyddo a dangos fy ymrwymiad i fy nghlwb cartref," meddai Dyer.
“Rydw i wedi bod yma ers i mi fod gyda’r tîm dan 16, wedi tyfu i fyny ochr yn ochr â llawer o fy nghyd-chwaraewyr ac yn mwynhau’r awyrgylch sydd wedi’i adeiladu yma gan Dai Flanagan (prif hyfforddwr y Dreigiau).
"Mae gennym ni lawer o dalent yn y garfan dwi'n credu y gallwn ni dyfu gyda'n gilydd.
"Nid ydym wedi cael y tymor orau hyd yma, ond mae gennym ni rywbeth da yn digwydd yma nawr ac mae pawb yn prynu i mewn iddo.
“Rydyn ni’n hyderus y gallwn ni newid y stigma a dechrau cael mwy o fuddugoliaethau a rhoi perfformiadau gwell, nid yn unig i ni ein hunain, ond hefyd i’n cefnogwyr sy’n dod i’n gwylio a’n cefnogi ni drwy’r amser.”
Cyfle
Mae penderfyniad Dyer hefyd yn hwb i Warren Gatland, yn dilyn penderfyniad annisgwyl Louis Rees-Zammit i roi'r gorau i chwarae rygbi er mwyn ceisio ymuno â’r NFL.
Fe ddaeth y cyhoeddiad gan y chwaraewr 22 oed ar drothwy enwi carfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad.
Sgoriodd 14 cais mewn 31 ymddangosiad i Gymru,
Fe wnaeth Gymru hefyd colli allan ar yr asgellwr Immanuel Feyi-Waboso, wedi iddo gael ei ddewis yng ngharfan Lloegr ar gyfer y Chwe Gwlad ar ôl cyfres o berfformiadau cryf dros Gaerwysg yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Cafodd Feyi-Waboso ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, ond yn ôl adroddiadau, fe ddewisodd cynrychioli Lloegr yn hytrach na Chymru oherwydd ei fod yn dymuno parhau a'u hastudiaethau meddygol dros y ffin.
Josh Adams, Mason Grady a Tom Rogers yw'r asgellwyr eraill a ddewiswyd yng ngharfan Cymru gan Gatland.