Newyddion S4C

Streic gyntaf meddygon iau yng Nghymru yn dod i ben

18/01/2024
Streic meddygon iau Cymru

Mae streic gyntaf meddygon iau yng Nghymru yn dod i ben ddydd Iau yn dilyn tridiau o weithredu diwydiannol.

Ddydd Llun fe wnaeth tua 3,000 o feddygon iau ledled Cymru gerdded allan o'u gwaith am gyfnod o 72 awr oherwydd anghydfod dros gyflogau.

Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru, sy’n cynrychioli byrddau iechyd yng Nghymru, bod y gweithredu diwydiannol wedi digwydd ar un o “wythnosau lle mae'r GIG dan bwysau mwyaf y flwyddyn, yn dilyn yr wythnosau diwethaf o bwysau gaeaf sylweddol”.

Dywedodd undeb llafur y meddygon, BMA Cymru, fod y bleidlais i streicio wedi ei chynnal fel rhan o ymgyrch adfer cyflog sydd, medden nhw, wedi gostwng bron i draean yn nhermau real ers 2008/9.

Roedd nifer o feddygon yn bresennol ar linellau piced y tu allan i bob un o brif safleoedd ysbytai Cymru yn ogystal â mynd â'u pryderon at aelodau'r Senedd.

Mae 6,500 o apwyntiadau a 400 o lawdriniaethau wedi eu canslo'r wythnos hon yn sgil y streic.

'Amhosib'

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes rhagor o arian ar gael, oni bai fod toriadau yn cael eu gwneud mewn meysydd eraill, fel amaeth.

Ar drothwy'r streicio ddydd Llun, dywedodd y gweinidog iechyd fod adfer cyflogau meddygon iau yng Nghymru yn amhosib heb gynnydd sylweddol mewn cyllid gan Lywodraeth y DU.

“Rydym yn siomedig bod meddygon iau wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol, ond rydym yn deall cryfder teimladau aelodau'r BMA,” meddai Eluned Morgan.

“Hoffem fynd i’r afael â’u huchelgeisiau adfer cyflog, ond mae’r cynnig codiad cyflog rydym wedi’i wneud ar derfyn y cyllid sydd ar gael i ni ac yn adlewyrchu’r sefyllfa a gyrhaeddwyd gyda’r undebau eraill.

“Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i drosglwyddo’r cyllid angenrheidiol i ddarparu codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.

“Mae Llywodraeth y DU wedi methu, dros y 13 mlynedd diwethaf, ag ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn iawn.

“Byddai cyllideb Llywodraeth Cymru rhwng 2024 a 2025 £3 biliwn yn uwch pe bai wedi tyfu yn unol â’r economi ers 2010.

“Oherwydd y sioc chwyddiant diweddar, mae ein setliad y flwyddyn nesaf werth hyd at £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na’r disgwyl pan gafodd ei osod gyntaf yn 2021.” 

Mae Newyddion S4C wedi holi Llywodraeth y DU am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.