Newyddion S4C

Annibyniaeth i Gymru yn 'opsiwn' medd adroddiad wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru

18/01/2024
Gorymdaith annibyniaeth

Mae annibyniaeth i Gymru yn 'opsiwn posib' yn ôl adroddiad sydd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei sefydlu gan y llywodraeth er mwyn edrych ar sut y gall y wlad gael ei llywodraethu yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad gan y Comisiwn, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, yn datgan y byddai Cymru yn wynebu her sylweddol yn y tymor byr i ganolig oherwydd y byddai Llywodraeth Cymru yn codi llai o drethi na'r hyn y mae'n gwario.

Cafodd y Comisiwn ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2021, ac mae'n cael ei gadeirio ar y cyd gan Yr Athro Laura McAllister a chyn Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams.

Dim 'dewis perffaith'

Daeth y Comisiwn i'r casgliad fod cynyddu pwerau a sgôp y pwerau sy'n cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru yn risg is o safbwynt cost, sefydlogrwydd economaidd a chyllid cyhoeddus.

Ond ychwanegodd ei fod yn peri'r risg o barhau i gael perfformiad economic eithaf gwael, incwm isel a thlodi.

Yr opsiwn i drin Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar sail gyfartal oedd yn cael ei ystyried fel yr un mwyaf cymhleth gan bod hyn yn ddibynnol ar gefnogaeth gyhoeddus eang am ragor o ddatganoli i ranbarthau Lloegr, sydd ddim yn bodoli ar hyn o bryd.

Y trydydd opsiwn oedd annibyniaeth, ac yn ôl y Comisiwn, byddai hyn yn "her gyllidol sylweddol" a "dewisiadau anodd yn y tymor byr i ganolig".

Ond ychwanegodd y pwyllgor y byddai'n rhoi pŵer i Gymru i "ddyfeisio polisïau sy'n adlewyrchu blaenoriaethau pobl Cymru".

Mae'r adroddiad yn dweud fod dewis pa lwybr i'w ddilyn yn "gydbwysedd rhwng risg a chyfle" ond fe wnaeth hefyd gydnabod nad oedd unrhyw un o'r opsiynau yn ddewis perffaith ar gyfer pobl Cymru neu'r Senedd.

Ychwanegodd yr adroddiad y byddai pob opsiwn angen mewnbwn gan Lywodraeth y DU. 

Mae'n rhybuddio hefyd y byddai sefydlogrwydd Cymru yn ddibynnol ar asesiad o'r farchnad ariannol a chryfder ei pherthynas gyda phartneriaid rhyngwladol. 

Wrth ryngweithio gyda'r cyhoedd, daeth y Comisiwn i'r canfyddiad fod y cyhoedd yng Nghymru ar y cyfan yn gefnogol o ddatganoli, ond eu bod yn cael trafferth ar adegau i weld sut y byddai'n gwella eu bywydau. 

Ymateb

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Darren Millar AS, Gweinidog Cyfansoddiad y Ceidwadwyr: "Er bod yna rai agweddau diddorol o'r adroddiad yma a fydd angen rhagor o ystyriaeth, ni fydd gwaith y Comisiwn yn gwneud i ambiwlans gyrraedd yn gynt, na sicrhau bod staff digonol yn ein hysgolion na chefnogi busnesau Cymru.

"Byddai’r arian sy’n cael ei wario ar yr adroddiad hwn wedi cael ei wario’n well ar wasanaethau cyhoeddus o dan bwysau yng Nghymru."

Dywedodd yr Aelod Seneddol Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid Llafur dros Gymru: “Mae’r adroddiad hwn yn gyfraniad pwysig i ystyriaethau Llywodraeth Cymru ar ddyfodol Cymru a sut y gall ei sefydliadau wasanaethu ei phobl orau.

“Llafur yw plaid datganoli ac rydym wedi ymrwymo i atgyfnerthu statws y Senedd, cryfhau gweithio rhyng-lywodraethol a gwthio pŵer allan o San Steffan ac i ddwylo cymunedau.

“Bydd llywodraeth Lafur yn San Steffan a Bae Caerdydd yn cydweithio mewn gwir bartneriaeth, gan ysgogi newid ar draws y DU ar ôl 14 mlynedd o ddirywiad gan y Torïaid.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.