Tywysoges Cymru yn yr ysbyty wedi triniaeth ar yr abdomen
Mae Tywysoges Cymru Catherine Middleton yn yr ysbyty wedi iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen.
Cyhoeddodd Kensington Palace fod y driniaeth wedi bod yn llwyddiannus ac fe fydd y dywysoges yn aros yn yr ysbyty am 10 i 14 diwrnod.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y palas ei bod wedi cael ei "derbyn i'r London Clinic ddoe am driniaeth ar yr abdomen a oedd wedi ei gynllunio o flaen llaw".
"Roedd y driniaeth yn llwyddiannus ac mae disgwyl iddi aros yn yr ysbyty am 10 i 14 diwrnod cyn dychwelyd adref er mwyn parhau i wella," meddai.
"Ar sail cyngor meddygol presennol, mae'n anhebygol y bydd yn dychwelyd i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus tan ar ôl y Pasg."
Dywedodd y llefarydd "fod y Dywysoges yn ymwybodol faint o sylw fydd i'r datganiad yma" ond ei bod yn "dymuno bod ei manylion meddygol preifat yn aros yn breifat".
Yn ddiweddarach brynhawn Mercher, cyhoeddodd Palas Buckingham y bydd y Brenin Charles yn mynd i'r ysbyty yr wythnos nesaf am driniaeth yn ymwneud â phrostad chwyddedig.
Ychwanegodd y palas nad canser ydy'r cyflwr ond y bydd yn derbyn "triniaeth gywiro".
Fe fydd ei ddyletswyddau cyhoeddus yn cael eu gohirio am gyfnod byr er mwyn gwella yn ôl y palas.