Newyddion S4C

Llanelli: Ymestyn gorchymyn alcohol a chyffuriau er mwyn 'mynd i’r afael â throseddau ac anhrefn'

17/01/2024
Llanelli

Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) wedi ei gyflwyno yng nghanol tref Llanelli er mwyn “mynd i’r afael â throseddau ac anhrefn” sy'n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau.

Ma gorchymyn PSPO fod mewn grym mewn rhannau o’r dref ers 2020, ond mae Cyngor Sir Gâr wedi penderfynu cyflwyno gorchymyn newydd mewn ardal ehangach.

Mae arwyddion wedi eu gosod yn yr ardal ble mae’r gorchymyn mewn grym, sydd yn cynnwys yr ardaloedd Wern a Bigyn o’r dref.

Daeth y gorchymyn i rym ar 12 Ionawr 2024 a bydd yn parhau ar waith am dair blynedd.

Dywedodd y Prif Arolygydd Steve Thomas, Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'r gorchymyn, a gymeradwywyd gan ein partneriaid yn yr awdurdod lleol, yn ffordd werthfawr o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau eraill a achosir gan yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yn ardal Llanelli.  

"Bydd o gymorth mawr i ni o ran sicrhau bod Llanelli yn lle diogel a braf i'r gymuned gyfan.”

'Pwysig'

Mae’r gorchymyn yn caniatáu’r heddlu i wahardd yfed alcohol ar y tir dan sylw’r gorchymyn, os ydyn nhw'n credu y bydd yfed alcohol yn arwain at gael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd y rhai yn yr ardal.

Byddai unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio â chais yr heddlu i roi'r gorau i yfed neu i ildio alcohol, heb esgus rhesymol, yn drosedd, a gallai unigolion gael eu harestio a chael dirwy hyd at £1000.

Daw’r penderfyniad i ymestyn y gorchymyn yn sgil dadansoddiad o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol, yn ogystal ag ymgynghori cyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio: “Mae'r mesur hwn yn chwarae rhan bwysig yn amcan llesiant y Cyngor o ran galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.