Newyddion S4C

Meddygon iau yng Nghymru yn dechrau streic 72 awr

17/01/2024

Meddygon iau yng Nghymru yn dechrau streic 72 awr

Er y tywydd oer a'r tywyllwch roedd y meddygon iau ar y llinell biced am saith y bore y tu fas i ysbyty mwyaf Cymru yng Nghaerdydd ond nid gofyn am gydymdeimlad oedd y criw yma.

Galw maen nhw am godiad cyflog.

Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth i stopio meddygon sy'n gadael.

Dyw gohirio miloedd o driniaethau ac apwyntiadau yn y tridiau yma fyddai rhai yn dadlau dyw hynna ddim yn lot o help i gleifion.

'Dyn ni ddim yn moyn streicio.

Mae'r sefyllfa yn anodd iawn am gleifion achos does dim digon o feddygon.

Oni bai fod pethau'n newid y pryder yw y bydd meddygon iau naill ai yn mynd dramor i weithio neu'n gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.

Wnes i fyw efo pedwar o bobl. Wedyn, mae hanner nhw wedi symud i Awstralia jyst o'r grŵp bach hwnna.

Mae hwnna'n dalent iau, yn dalent ifanc sydd ddim yn mynd i ddod nôl i'r wlad hwn.

Mae meddygon iau yn cynrychioli amrywiaeth eang o feddygon sydd wedi graddio o ysgol feddygol ac sy'n hyfforddi i fod yn feddygon arbenigol neu'n feddygon teulu.

Proses all gymryd blynyddoedd lawer.

Mae tua 4,000 ohonyn nhw yn gweithio yng Nghymru sef 40% o'r gweithlu meddygol.

Fe gawson nhw 5% o godiad cyflog yn yr haf gyda'r Gweinidog Iechyd yn mynnu nad oedd modd cynnig mwy.

Ond mae cyflogau meddygon iau wedi gostwng mewn termau real o 29.6% ers 2008 yn ôl Cymdeithas Feddygol y BMA yng Nghymru.

Felly yn Ysbyty Gwynedd, fel yn Ysbyty Glangwili yr un oedd y neges.

Mae fe'n anodd diwrnod ar ddiwrnod gweld cleifion yn cael eu trin mewn ffordd 'dyn ni ddim yn gallu cael yr optimum ar gyfer.

Fydden ni'n moyn gwneud mwy ar gyfer nhw ond pan mae cyn lleied o staff, 'dyn ni ddim yn gallu gwneud hwnna.

Bod ni'n cael ein hedrych ar ôl er mwyn bod ein cleifion ni yn cael eu hedrych ar ôl.

Yn sicr, mae cael cymaint o feddygon iau ar linellau piced yn hytrach na'n gweithio ar y wardiau yn mynd i gael effaith sylweddol ar wasanaethau.

Mae hyn i gyd yn digwydd yng nghanol mis Ionawr ar adeg pan mae'r galw ar y Gwasanaeth Iechyd ar ei uchaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd llai o lawdriniaethau a miloedd yn llai o apwyntiadau yn digwydd yn ystod tridiau'r streic.

Felly, sut mae'r Byrddau Iechyd yn ymateb? Os oes unrhyw bryder, mae gwasanaeth 111 Cymru i bobl gysylltu efo fferyllwyr cymunedol, unedau mân anafiadau ac mae'r meddyg teulu.

Wrth gwrs, mae ein hadran brys ni dal yn gweithio.

Ond pa effaith fydd y gweithredu'n ei gael ar ddiogelwch cleifion?

Fe wnes i gwrdd ag un meddyg aeth yn syth i'r llinell biced ar ôl gorffen shifft nos yn yr uned frys i blant.

Yr ymgynghorwyr wedi sefyll i lawr i wneud y gwaith 'dan ni'n gwneud.

Mae hynny'n golygu bod y gwaith maen nhw'n gwneud yn y clinigau ddim yn digwydd heddiw - sy'n mynd i gostio'r Bwrdd Iechyd pres ond dydy o ddim yn rhoi dim o'r cleifion sy yn yr ysbyty mewn risg.

Ym Mangor, fe fydd y brifysgol yn chwarae rhan bwysig o ran hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ddoctoriaid yn yr ysgol feddygaeth newydd.

Ond faint o gefnogaeth sydd yma i'r streic?

Dw i'm yn cytuno. Pan ti'n mynd yn ddoctor, pwy ydy'r person mwyaf pwysicaf? Y pobl ti'n edrych ar ôl.

Maen nhw 'di seinio i watsied ar ôl pobl. 

Dw i'n cytuno. I fi, maen nhw'n deservio mwy na'r heddlu. I fi, mae'r NHS yn gwneud mwy o waith a'r paramedics - mae'r rhain i gyd.

Ond mae unrhyw weithredu yn mynd i bentyrru pwysau a chynyddu rhestrau aros sydd eisoes yn hirach nac erioed ond heddiw a dros y deuddydd nesa fe fydd meddygon fel y rhain yn dal i fynnu eu bod nhw'n haeddu gwell.

Mae Owain Clarke yma.

Ydyn ni'n gwybod beth yw effaith y streic yma ar driniaethau?

Er enghraifft yn Ysbyty Athrofaol Cymru, maen nhw'n amcangyfrif 80% o lawdriniaethau ddim yn digwydd dros y tridiau nesa.

Dros Gymru cannoedd o lawdriniaethau a miloedd o apwyntiadau yn cael eu heffeithio.

Yn ystod y cyfnod yma rhaid i feddygon ac ymgynghorwyr ymgymryd â gweithgarwch meddygon iau er mwyn diogelu gwasanaethau brys.

Mae hynny'n amharu ar waith arall.

Ni'n gobeithio cael mwy o wybodaeth am yr union effaith pan fydd Judith Paget ac Eluned Morgan yn siarad i'r wasg fory.

Dim ond sôn am yr effaith fyddan nhw.

Wi ddim yn disgwyl i'r Gweinidog Iechyd symud ei safbwynt o ran y cwestiwn o dâl.

Hi'n mynnu heb gyllid o San Steffan, all hi ddim fforddio talu mwy.

O gyfeirio at yfory, bydd y meddygon iau ar y llinell biced.

Byddan. 

Byddan nhw hefyd yn cynnal rali fawr y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Hwn yn dechrau ganol dydd.

Mae sôn fydd sawl llond bws o feddygon iau yn teithio o bob cwr o Gymru i fod yn rhan o'r digwyddiad hwnnw.

I fod yn onest ni ddim wedi cael protest o'r maint hwnnw ers datganoli o ran meddygon o leia.

Y gwrthgyferbyniad yn amlwg fory cynhadledd y wasg gan Lywodraeth Cymru a'r meddygon y tu fas i'r Senedd yn chwifio eu baneri a placardiau.

Diolch am y cyd-destun.

Owain Clarke, ein gohebydd iechyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.