Newyddion S4C

Awyrlu'r UDA'n cynnal cyrchoedd awyr ar dargedau Houthi yn Yemen

17/01/2024

Awyrlu'r UDA'n cynnal cyrchoedd awyr ar dargedau Houthi yn Yemen

Un o awyrennau'r RAF ar ei ffordd i Yemen neithiwr.

Yr Unol Daleithiau gydlynodd yr ymgyrch a dargedodd 16 o leoliadau o dan reolaeth yr Houthi gan gynnwys yn y brifddinas Sanaa.

Ar ymweliad ag Wcrain heddiw fe eglurodd Rishi Sunak pam ei fod wedi penderfynu gweithredu.

This type of behaviour can't be met without a response. We need to send a strong signal that this breach of international law is wrong. Together with allies, we decided to take this action.

Daeth y cyrchoedd yn dilyn cyfarfodydd hwyr yn y Swyddfa Gabinet neithiwr.

Cafodd llefarydd Tŷ'r Cyffredin Lindsay Hoyle ei alw yno ar fyr rybudd.

Roedd 'na drafodaeth hefyd gydag arweinydd Llafur Syr Keir Starmer sydd wedi cefnogi'r ymgyrch.

Ni yn y Blaid Lafur yn cefnogi beth mae'r Prif Weinidog wedi neud achos wrth gwrs, mae'n bwysig, bwysig iawn amddiffyn llongau masnachol yn y Môr Coch achos mae gwledydd ar draws y byd yn dibynnu ar fasnachau rhyngwladol.

Ond mae'r pleidiau eraill yn San Steffan wedi mynegi siom nad oedd yna ddatganiad yn Nhŷ'r Cyffredin cyn i'r cyrchoedd ddigwydd.

Dw i'n gresynu ac yn siomedig iawn yn y llywodraeth bod Aelodau Seneddol ddim wedi cael eu galw'n ôl fel bod y cyhoedd yn cael clywed y rhesymau a dw i yn galw bod ni'n cael ein galw yn ol cyn gynted ag yn bosib nid pedwar diwrnod yn ddiweddarach ar ddydd Llun.

Grŵp milwrol a gwleidyddol sy'n rheoli rhan fawr o Yemen ydy'r Houthis.

Maen nhw'n cefnogi Hamas ac ers mis Tachwedd yn sgil y sefyllfa'n Gaza maen nhw wedi bod yn ymosod ar longau yn y Môr Coch y maen nhw'n honni sy'n cludo nwyddau i Israel.

Mae'r ymosodiadau wedi cael effaith byd-eang ar fasnach ryngwladol gyda nifer fawr o longau'n penderfynu dilyn llwybr gwahanol o gwmpas De Affrica gan ychwanegu dyddiau a chost at eu teithiau.

Mae gan yr Houthis gefnogaeth Iran, ac mae'r Unol Daleithiau wedi cyhuddo Iran o'u helpu nhw i dargedu llongau.

Gwadu hynny mae Iran. Mi ddaeth Hedd Thomas o Bwllheli i gysylltiad â rhai Houthis tra'n ceisio ymweld â'r hen ran o'r brifddinas yn ystod ei gyfnod yn gweithio yn Yemen gydag asiantaeth ddyngarol.

Mi ddaru nhw geisio stopio ni rhag mynd i mewn i'r hen ddinas am eu bod nhw yn gwrthwynebu pobl o wledydd tramor rhag ymweld.

Dynion ifanc oedden nhw. Oedden nhw wedi cynhyrfu.

Roedden nhw'n gweiddi slogans yn erbyn America, yn erbyn Ewrop ac yn erbyn Israel.

Roedden nhw'n reit ymosodol ond mi nethon nhw symud i ffwrdd a mi gawson ni heddwch am weddill y diwrnod.

Wrth i filoedd ar filoedd o bobl ymgasglu ym mhrifddinas Yemen y pnawn 'ma i brotestio yn erbyn yr Unol Daleithiau a Phrydain rhybuddiodd yr Houthis y bydd pris i'w dalu am yr hyn ddigwyddodd neithiwr.

Yn y cyfamser, mae Iran a Rwsia wedi condemnio'r cyrchoedd.

Ond mae'r Arlywydd Biden wedi dweud ei fod e'n barod i weithredu eto os oes angen.

Mae'r sefyllfa'n beryglus o fregus.

Adroddiad Cemlyn Davies.

Yn gynharach, bues i'n holi'r Dr Brieg Powel sy'n arbenigo mewn gwleidyddiaeth ryngwladol gan ofyn i ddechrau beth mae'r cyrchoedd dros nos wedi cyflawni.

Mae'r ateb yn dibynnu ar yr hyn wneith yr Houthi dros yr oriau, dyddiau ac wythnosau nesaf.

Yn sicr, ni 'di gweld yr Houthi yn bygwth taro nôl ac felly, mae disgwyl i hynny ddigwydd.

Mae'r Houthi wedi llwyddo i oroesi bron i ddegawd o gyrchoedd awyr gan luoedd awyr Arabaidd yn cynnwys Saudi Arabia sy'n defnyddio'r un fath o dechnoleg ac awyrennau ag mae'r Unol Daleithiau a'r Deyrnas Gyfunol yn defnyddio.

Ni'n son am grŵp sydd â chryn dipyn o brofiad i wrthwynebu y mathau o gyrchoedd awyr gafodd ei lansio dros nos gan y Deyrnas Gyfunol a'r Unol Daleithiau.

Mae eisiau ystyried hefyd effaith bod yr arfau mae'r Houthi yn defnyddio i ymosod ar longau yn y Môr Coch yn gallu cael eu symud yn glou ac yn cael eu cuddio'n glou.

Bydden nhw wedi disgwyl y mathau yma o ymateb gan yr Unol Daleithiau achos bod nhw wedi bod yn profocio'r Unol Daleithiau.

Gwnaethoch chi holi'ch hun yn eich ateb "Beth wneith yr Houthi nesaf?"

Ydyn ni wedi cyrraedd y pwynt, Brieg Powel lle mae'r rhyfel hyn yn y Dwyrain Canol nawr wedi ehangu?

Yndy, mae wedi bod yn ehangu yn raddol bach ers y cychwyn yn Libanus ac yn yr Yemen a'r Môr Coch.

Mae'r Houthi yn gallu portreadu ei hunain fel yr unig grwp neu'r unig sefydliad gwleidyddol Arabaidd y tu hwnt i Libanus sydd yn cefnogi'r Palestiniaid.

Dyma'r elfen rethregol mae'r Houthi wedi bod yn cyfleu yn ddiweddar sy'n tynnu'r Unol Daleithiau a'r Deyrnas Gyfunol i sefyllfa letchwith iawn.

Hefyd, yn ennill mwy o gefnogaeth ymysg y boblogaeth yn yr Yemen ond ymysg poblogaeth ranbarthol yr Arabiaid yn y rhanbarth.

Mae tipyn yn y rhanbarth yn anhapus iawn gyda be maen nhw'n gweld fel diffyg gallu eu llywodraethau Arabaidd i ymateb i'r hyn sy'n digwydd yn Gaza a gan Israel.

Dyna ni, y Doctor Brieg Powel o Brifysgol Caerwysg, diolch yn fawr. Diolch yn fawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.