Newyddion S4C

Chwyddiant yn codi yn annisgwyl i 4%

17/01/2024
Arian Costau Biliau

Fe gododd cyfradd chwyddiant y DU yn annisgwyl i 4% ym mis Ionawr, yn ôl y Swyddfa Ystadegau.

Roedd economegwyr wedi rhagweld cwymp o 3.9% i 3.7%, ar ôl gostyngiad mwy na'r disgwyl fis diwethaf.

Mae chwyddiant, sy’n mesur pa mor gyflym y mae prisiau’n codi, wedi bod yn arafu yn y DU ers un o'r lefelau uchaf erioed tua diwedd 2022, pan gyrhaeddodd 11.1% .

Cynnydd ym mhrisiau tobaco ac alcohol sydd i gyfrif am y cynnydd annisgwyl diweddaraf, medd y Swyddfa Ystadegau.

Fis diwethaf roedd chwyddiant ar ei lefel isaf ers mwy na dwy flynedd, a hynny'n rhannol oherwydd gostyngiad ym mhrisiau petrol.

Mae bellach ymhell islaw ei uchafbwynt ym mis Hydref 2022, ond mae costau byw yn parhau i fod yn uchel.

Wrth ymateb i'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd y Canghellor Jeremy Hunt bod Llywodraeth y DU wedi bod yn gwneud penderfyniadau anodd.

“Fel rydym wedi gweld yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc a’r Almaen, nid yw chwyddiant yn disgyn mewn llinell syth, ond mae ein cynllun yn gweithio a dylem lynu ato. 

'Fe wnaethon ni benderfyniadau anodd i reoli benthyca ac rydym ni nawr yn troi'r gornel, felly mae angen i ni aros ar y trywydd rydyn ni wedi’i osod, gan gynnwys hybu twf gyda lefelau treth mwy cystadleuol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.