Newyddion S4C

Rishi Sunak o dan bwysau cyn pleidlais dyngedfennol ar Rwanda

17/01/2024
Rwanda

Mae Rishi Sunak yn wynebu pleidlais dyngedfennol ar ei gynllun dadleuol i anfon ceiswyr lloches i Rwanda, wedi i ddau ddirpwy gadeirydd y Ceidwadwyr a chynorthwy-ydd gweinidogol wrthyfela ddydd Mawrth. 

Ymddiswyddodd Lee Anderson, Brendan Clarke-Smith a Jane Stevenson o'u rôl er mwyn eu galluogi i bleidleisio dros newidiadau y maen nhw'n dadlau fyddai'n cryfhau'r ddeddfwriaeth.  

Yn ddiweddarach nos Fawrth, cafodd ymdrechion y Prif Weinidog ergyd, wrth i 60 o Aelodau Seneddol Ceidwadol gefnogi'r gwelliannau hynny a gafodd eu cynnig mewn pleidlais yn San Steffan.

Cafodd y cynnig ei wrthod o 529 o bleidleisiau i 68.  

Bellach bydd yn rhaid i'r aelodau meinciau cefn sy'n gwrthryfela benderfynu a fyddan nhw yn cefnogi'r bil cyflawn ai peidio nos Fercher, heb y newidiadau y maen nhw yn ei ddymuno. 

Er gwaetha'r gwrthryfela, mae Downing Street yn dweud eu bod yn ffyddiog y caiff y bil cyflawn ei gymeradwyo.

Pe bai tua 30 o Aelodau Seneddol Ceidwadol yn ymuno â'r gwerthbleidiau a phleidleisio yn erbyn y bil nos Fercher, gallai Llywodrath y DU gael ei threchu .  

Eisoes mae o leiaf bedwar Aelod Seneddol Ceidwadol wedi dweud yn gyhoeddus eu bod yn barod i bleidleisio yn erbyn y bil os na chaiff gwelliannau eu cyflwyno. Mae'r cyn Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman a'r cyn weinidog Robert Jenrick yn eu plith. 

Dyw hi ddim yn glir faint yn rhagor allai ymuno â nhw. 

Fis Tachwedd, dyfarnodd y Goruchaf Lys fod y cynllun i anfon ceiswyr lloches i Rwanda yn anghyfreithlon, gan ddadlau nad yw'n wlad ddiogel. 

Wedi hynny, cyflwynodd y Llywodraeth fil newydd a oedd yn datgan yn  glir o fewn cyfraith y Deyrnas Unedig, fod Rwanda yn wlad ddiogel.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.