Newyddion S4C

Sgandal Swyddfa'r Post: Galwad ar benaethiaid Fujitsu i dalu £10 miliwn o iawndal

17/01/2024
Sgandal Swyddfa'r Post

Mae galwad ar i benaethiaid cwmni a ddatblygodd system ddiffygiol Horizon i dalu £10 miliwn o iawndal i is-bostfeistri a ddioddefodd yn sgil sgandal Swyddfa'r Post. 

Cafodd cannoedd eu cyhuddo ar gam am fod y system yn gwneud iddi ymddangos fel pe bai arian ar goll. 

Yn ôl yr Aelod Seneddol Marion Fellows, dylai cwmni Fujitsu dalu’r iawndal erbyn diwedd mis Ionawr eleni. 

Awgrymodd wrth bennaeth Ewopeaidd Fujitsu, Paul Patterson, y byddai’r arian yn “gam bychan yn y cyfeiriad cywir.” 

Fe ddaeth ei galwad wedi i Mr Patterson ymddangos o flaen pwyllgor yn San Steffan ddydd Mawrth. 

Ymddiheurodd Paul Patterson am ran Fujistsu yn yr "anghyfiawnder difrifol" gan nodi fod "cyfrifoldeb moesol" ar y cwmni technegol i gyfrannu tuag at yr iawndal i ddioddefwyr sgandal Swyddfa'r Post. 

Mae'r AS dros blaid yr SNP ar gyfer Motherwell a Wishaw bellach wedi ysgrifennu at Mr Patterson gan fynnu bod y cwmni yn talu “cyfraniad cychwynnol” sy'n o leiaf £10 miliwn erbyn diwedd mis Ionawr.

Mewn llythyr ato, dywedodd: “Byddai cyfraniad ariannol cychwynnol yn arwydd o ddymuniad Fujitsu i sicrhau cyfiawnder i’r rheiny sydd wedi dioddef yn sgil yr anghyfiawnder mwyaf erioed.

“Mae angen i’r rhai sydd ar fai wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau cyfiawnder i’r dioddefwyr.” 

Iawndal

Rhwng 1999 a 2015, cafodd cannoedd o is-bostfeistri eu herlyn gan Swyddfa'r Post oherwydd diffygion yn system gyfrifiadurol Horizon a oedd yn berchen i Fujitsu. 

Cyfaddefodd Mr Patterson ddydd Mawrth fod “diffygion yn y system,” gan ymddiheuro am hynny. 

Ychwanegodd Ms Fellows fod bywydau unigolion wedi’u “dinistrio gan y sgandal” a bod dyletswydd ar Fujitsu i wneud yn iawn am yr hyn aeth o'i le. 

Dywedodd hefyd bod sawl unigolyn bellach wedi marw heb iddyn nhw erioed gael iawndal na chyfiawnder. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.