Aelodau Ceidwadol yn ymddiswyddo oherwydd cynllun Rwanda
Mae tri aelod Ceidwadol yn San Steffan wedi ymddiswyddo o'u cyfrifoldebau oherwydd eu gwrthwynebiad i gynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i anfon ceiswyr lloches i Rwanda.
Mewn llythyr ymddiswyddiad ar y cyd, dywedodd Lee Anderson a Brendan Clarke-Smith nad oedden nhw yn dymuno tynnu sylw'r Prif Weinidog oddi ar ei "waith ar fewnfudo anghyfreithlon" a'u bod yn parhau i'w gefnogi.
Maen nhw wedi ymddiswyddo fel dirpwy gadeiryddion y Blaid Geidwadol.
Yn fuan wedi hynny cyhoeddodd Jane Stevenson, ei bod yn rhoi'r gorau i'w rôl yn yr adran fusnes a masnach.
Maen nhw wedi ymddiswyddo er mwyn ymuno â thua 60 o Aelodau Seneddol Ceidwadol a oedd yn cefnogi gwelliannau, y mae nhw'n dadlau a fyddai'n cryfhau'r ddeddfwriaeth ar fewnfudo.
Er gwaetha'r gwrthryfela mewnol, mae Downing Street yn dweud eu bod yn hyderus y caiff y bil cyflawn ei gymeradwyo mewn pleidlais nos Fercher.
Bu aelodau seneddol yn pleidleisio yn y Senedd nos fawrth ar y gwelliannau i fil y Llywodraeth, wrth i Rishi Sunak obeithio bod modd iddo adfywio ei gynllun i anfon rhai ceiswyr lloches i Rwanda.
Robert Jenrick - a ymddiswyddod fel gweinidog mewnfudo y llynedd oherwydd deddfwriaeth Rwanda, a'r Ceidwadwr blaenllaw Syr Bill Cash gyflwynodd y gwelliant.
Cafodd ei wrthod o 529 o bleidleisiau i 68.
Yn sgil hynny, bydd yn rhaid i'r aelodau meinciau cefn sy'n gwrthryfela benderfynu a fyddan nhw yn cefnogi'r bil cyflawn ai peidio nos Fercher, heb y newidiadau y maen nhw yn ei ddymuno.
Fis Tachwedd, dyfarnodd y Goruchaf Lys fod y cynllun i anfon ceiswyr lloches i Rwanda yn anghyfreithlon.
Wedi hynny, cyflwynodd y Llywodraeth fil newydd a oedd yn datgan yn glir o fewn cyfraith y Deyrnas Unedig, fod Rwanda yn wlad ddiogel.