Ymestyn rhybudd melyn am eira a rhew yng Nghymru
Mae rhybudd melyn am eira a rhew yn parhau mewn grym mewn rhannau ddydd Mercher, ac wedi ei ymestyn i gynnwys rhai o siroedd y de a'r canolbarth.
Cafodd y rhybudd ei gyhoeddi ar gyfer rhai siroedd yn y gogledd ddydd Mawrth, gyda disgwyl iddo barhau hyd at ddydd Iau.
Mae rhybudd pellach ar gyfer eira a rhew wedi ei gyhoeddi ar gyfer siroedd y gogledd a rhai siroedd y de a'r canolbarth o nos Fercher hyd at ddydd Iau.
Mae disgwyl i’r cyfuniad o eirlaw, eira a rhew achosi oedi i drafnidiaeth, meddai’r Swyddfa Dywydd.
Maen nhw’n rhybuddio y gallai eira achosi trafferthion ar rai ffyrdd am gyfnodau.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio y gallai rhai gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau gael eu gohirio oherwydd y tywydd.
Mae disgwyl i’r eira ac eirlaw ymledu tua'r de-ddwyrain yn ddiweddarach ddydd Mercher.
Fe allai hyd at 5cm o eira ddisgyn mewn rhai ardaloedd, gyda disgwyl oddeutu 1-2cm i’r mwyafrif.
Mae pobl yn cael eu hannog i gymryd gofal wrth gerdded ar hyd rhai llwybrau rhewllyd, yn enwedig palmentydd a llwybrau beicio sydd heb eu trin â halen neu raean.
Mae'r rhybudd melyn yn berthnasol i’r siroedd canlynol:
Conwy
Sir Ddinbych
Sir Y Fflint
Gwynedd
Ynys Môn
Powys
Wrecsam
Mae rhybudd am y siroedd isod yn dod i rym o 22:00 nos Fercher:
- Abertawe
- Ceredigion
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Benfro