Newyddion S4C

RAAC: Pob ysgol yng Nghymru ar agor i bob disgybl bellach

16/01/2024
Ysgol David Hughes / Ysgol Caergybi

Mae pob ysgol yng Nghymru ar agor i bob disgybl yn sgil trafferthion â choncrit diffygiol RAAC.

Pum ysgol yn y wlad oedd wedi eu canfod gyda choncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC).

Ddydd Mawrth, daeth cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru fod pob ysgol oedd â'r concrit, bellach ar agor i bob disgybl.

Ar Ynys Môn, mae Ysgol David Hughes wedi ailagor yn ddiogel a llwyddodd Ysgol Uwchradd Caergybi i ailagor yn ddiogel ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb i bob disgybl ar 10 Ionawr, yn gynt na’r disgwyl.

Mae Ysgol Maes Owen yng Nghyngor Sir Conwy, Ysgol Trefnant yn Sir Ddinbych ac Ysgol Gynradd Eveswell yng Nghasnewydd hefyd wedi ailagor i ddisgyblion yn dilyn gwaith adfer yr adeiladau.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, fod buddsoddiad y Llywodraeth i adnewyddu ysgolion dros y degawd diwethaf wedi “talu ar ei ganfed”.

Meddai: "Dros y naw mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi cyflwyno rhaglen helaeth ar gyfer adnewyddu ac adeiladu ysgolion a cholegau newydd, gan uwchraddio a rhoi rhai newydd yn lle'r rhai sydd fwyaf angen sylw am resymau diogelwch ac ansawdd.

"Mae'r ffaith bod cyn lleied o achosion o RAAC wedi'u nodi yn ein hysgolion, dim ond pump yng Nghymru o'i gymharu â dros 270 mewn mannau eraill yn y DU, yn dyst i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ein canolfannau dysgu."

'Gweithredu'n gyflym'

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu lefel y cyllid cyfalaf ar gael drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i £850m ar gyfer y cyfnod 2022/23 i 2024/25.

Hyd yn hyn mae dros £2.35 biliwn wedi'i dargedu at brosiectau adeiladu newydd ac adnewyddu sylweddol.

Ychwanegodd Jeremy Miles: "Rwy' am ddiolch i staff ein hysgolion, cynghorau, colegau a phrifysgolion am weithredu'n gyflym dros y misoedd diwethaf i gynnal yr asesiadau hyn; ac i sicrhau'r effaith leiaf posibl ar ddysgwyr yn y nifer fach o adeiladau a oedd yn cynnwys RAAC."

Cafodd planciau concrit RAAC hefyd eu darganfod yn Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro fis Awst, gyda chwe ward yn cau dros dro.

Fe gafodd tri o’r wardiau eu hail-agor fis Rhagfyr, wrth i’r gwaith adfer barhau yng ngweddill y wardiau.

Llun: Ysgol David Hughes / Ysgol Uwchradd Caergybi (Google Maps)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.