Sgandal Swyddfa'r Post: Fujitsu yn cyfaddef diffygion tra'n cydnabod yr angen i dalu iawndal
Tra'n cael ei holi gan bwyllgor o Aelodau Seneddol yn San Steffan, cyfaddefodd pennaeth Ewropeaidd Fujitsu, bod diffygion yn eu system gyfrifiadurol Horizon a arweiniodd at gannoedd o is-bostfeistri yn cael eu cyhuddo ar gam.
Ymddiheurodd Paul Patterson am ran Fujistsu yn yr "anghyfiawnder difrifol" gan nodi fod "cyfrifoldeb moesol" ar y cwmni technegol i gyfrannu tuag at yr iawndal i ddioddefwyr sgandal Swyddfa'r Post.
Rhwng 1999 a 2015, cafodd cannoedd o is-bostfeistri eu herlyn gan Swyddfa'r Post oherwydd diffygion yn system gyfrifiadurol Horizon a oedd yn berchen i Fujitsu.
Ymhlith y rhai a gyflwynodd dystiolaeth ar ddechrau'r gwrandawiad, roedd y cyn is-bostfeistr yn Llandudno, Alan Bates, sef y prif gymeriad yn y ddrama ar ITV a roddodd sylw o'r newydd i'r sgandal.
Nododd Mr Bates fod y cynlluniau iawndal yn llawn biwrocratiaeth. Ychwanegodd fod y broses yn "wallgof. "
Cafodd pennaeth presennol Swyddfa'r Post Nick Read ei holi hefyd yn y sesiwn fore Mawrth.
Swyddfa'r Post aeth ati i erlyn yr is-bostfeistri yn hytrach na Gwasanaeth Erlyn y Goron
Dywedodd Mr Read nad yw'n credu y bydd Swyddfa'r Post yn gweithredu yn y fath fodd eto.
"Dydw i ddim yn credu y byddai Swyddfa'r Post eisiau cynnal erlyniadau preifat," meddai wrth y Pwyllgor Busnes a Masnach.
Wedi hynny, cafodd y Gweinidog Swyddfa'r Post yn San Steffan, Kevin Hollinrake ei holi. Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd pawb wedi derbyn iawndal sy'n ddyledus iddyn nhw erbyn fis Awst eleni.
Ychwanegodd fod 2,700 o achosion wedi eu cwblhau erbyn hyn sy'n 64% o'r holl geisiadau.
Gwrthdroi
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf gynlluniau i wrthdroi euogfarnau cannoedd o is-bostfeistri Swyddfa’r Post a gafodd eu cyhuddo ar gam yn sgil sgandal Horizon.
Bydd cyn-is bostfeistri sy'n cael eu heuogfarnau wedi eu gwrthdroi yn gymwys i dderbyn taliad iawndal o £600,000 tra bod Rishi Sunak hefyd wedi cynnig £75,000 i gyn-is bostfeistri oedd yn rhan o grwp cyfreithiol yn erbyn Swyddfa'r Post.
Mae Rishi Sunak wedi wynebu galwadau i fynd ymhellach a gwahardd Fujitsu rhag sicrhau cytundebau'r Llywodraeth, ac i fynd ar eu holau er mwyn sicrhau taliadau iawndal.