Newyddion S4C

Streic meddygon iau: Y GIG yn 'dygymod' yng Nghymru

16/01/2024
Streic meddygon iau Cymru

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn dygymod yng nghanol pwysau cynyddol ar wasanaethau yn sgil streic y meddygon iau, yn ôl penaethiaid iechyd. 

Fe wnaeth meddygon iau ledled Cymru ddechrau streicio am dridiau ddydd Llun, a hynny mewn anghydfod dros gyflogau.

Dechreuodd y streic am 07:00 fore Llun ac fe fydd yn parhau tan 07:00 ddydd Iau. 

Mae'n bosibl y bydd dros 3,000 o feddygon wedi cadw draw o'u gwaith yn ystod y tridiau.

Dywedodd GIG Cymru fod tua 30% o driniaethau wedi cael eu gohirio ddydd Llun a bod 45% o apwyntiadau cleifion allanol yn gorfod cael eu haildrefnu oherwydd y streic.

Dywedodd prif weithredwr GIG Cymru Judith Paget mai'r flaenoriaeth oedd sicrhau bod gwasanaethau fel yr adran achosion brys, yr uned gofal dwys a gwasanaethau mamolaeth yn gallu parhau yn ystod y gweithredu diwydiannol. 

"Ond gyda miloedd o feddygon iau ar streic am dridiau, mae yna effaith sylweddol yn mynd i gael ei weld ar wasanaethau'r GIG," meddai. 

"Mae gan fyrddau iechyd amserlenni newydd ac mae meddygon ymgynghorol ac arbenigol wedi helpu i gyflenwi.

"Bydd gennym ni ddarlun cliriach a chywir o'r aflonyddwch erbyn diwedd yr wythnos.

"Ond hyd yma, gallaf ddweud wrthoch chi bod ein hysbytai wedi bod yn brysur fel y disgwyl, ond maent yn dygymod ac yn cadw eu gwasanaethau hanfodol i fynd."

Dywedodd undeb y meddygon, BMA Cymru, fod y bleidlais i streicio wedi ei chynnal fel rhan o ymgyrch i adfer cyflog sydd, medden nhw, wedi gostwng bron i draean yn nhermau real ers 2008/9.

Dywedodd yr undeb y byddai meddygon yn bresennol ar linellau piced y tu allan i bob un o brif safleoedd ysbytai Cymru, a'u bod hefyd yn mynegi eu pryderon wrth aelodau'r Senedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.