Newyddion S4C

UDA yn condemnio Iran am ymosod ar 'bencadlys ysbïo' yn Iraq

16/01/2024
Irbil.png

Mae'r Unol Daleithiau wedi condemnio Iran wedi i'r wlad ymosod ar adeilad yn ninas Irbil yn Iraq.

Dywedodd Gwarchodlu Chwyldroadol Iran eu bod wedi taro "pencadlys ysbïo" yng ngogledd Iraq gyda thaflegrau.

Cafodd pedwar o bobl eu lladd a chwech arall eu hanafu yn yr ymosodiad ddydd Llun yn ôl cyngor diogelwch Kurdistan. 

Daw'r ymosodiadau yng nghanol tensiynau cynyddol yn yr ardal yn sgil y rhyfel rhwng Israel a Hamas a ddechreuodd ar 7 Hydref y llynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Diogelwch Cenedlaethol y Tŷ Gwyn, Adrienne Watson: "Byddwn yn parhau i asesu'r sefyllfa, ond mae arwyddion cychwynnol yn awgrymu fod hwn wedi bod yn ymosodiad di-hid.

"Mae UDA yn cefnogi sofraniaeth ac annibyniaeth Iraq."

Mae Iran wedi ymosod ar diriogaeth Cyrdistan sy'n cael ei rheoli gan Iraq yn y gorffennol, gan honni fod yr ardal yn cael ei defnyddio gan grwpiau ymwahanol Iranaidd a chynrychiolwyr Israel. 

Mewn datganiad, fe wnaeth Prif Weinidog rhanbarth Cyrdistan Irac Masrour Barzani gondemnio'r ymosodiad ar Irbil fel "trosedd yn erbyn pobl Cwrdaidd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.