Newyddion S4C

Arestio dau ddyn wedi dau ladrad yn adeilad clwb pêl-droed Talgarth

15/01/2024
Clwb pêl-droed Talgarth

Mae dau ddyn 20 a 21 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth ac achosi difrod troseddol wedi dau ladrad yng nghlwb pêl-droed Talgarth ym Mhowys.    

Digwyddodd y cyntaf ar ddiwrnod Nadolig, ac yna cafodd yr heddlu eu galw eto i'r safle ar 10 Ionawr. 

Mae'r ddau ddyn sydd wedi eu harestio, wedi eu rhyddhau ar fechniaeth wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.  

Wedi'r lladradau, dywedodd pwyllgor Clwb Pêl-droed Talgarth bod y sefyllfa'n dorcalonnus. 

Llun: Google Maps

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.