Newyddion S4C

Cyngor yn pleidleisio dros adfywio cais cynllunio hanesyddol mewn pentref yng Ngwynedd

15/01/2024
Cais cynllunio Llanrug

Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio o blaid adfywio cais cynllunio hanesyddol mewn pentref yng Ngwynedd, a gafodd ei wrthod am y tro cyntaf oddeutu 50 mlynedd yn ôl. 

Fe gafodd cais cynllunio i adeiladu tai ar safle cae wrth ymyl tafarn yn Llanrug ei gymeradwyo yn unfrydol, gan 13 o gynghorwyr ddydd Llun. 

Mae’r cais diweddaraf yn disgrifio adeiladu tri ‘thŷ fforddiadwy cymdeithasol’, gan gynnwys dau dŷ pâr ac un byngalo wedi’i addasu.

Yn ogystal, bydd yn cynnwys mynedfa newydd, wyth lle parcio a man casglu biniau.

Cafodd y cais ei wrthwynebu’n wreiddiol yn yr 1970au, a dros y blynyddoedd roedd cynigion tai ar gyfer y tir ger Tafarn Glyntwrog wedi derbyn llu o wrthwynebiadau gan y cyhoedd.

Ond mae’r cais ar y safle 0.11 hectar a gafodd ei gyflwyno gan Morris Build for Life, drwy’r asiant Mark Davies o Cambrian Planning and Development Ltd, bellach wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd. 

Wrth drafod y cais cynllunio ddydd Llun, dywedodd Stephen Morris o Morris Build for Life: “Mae’r cais cynllunio yn cydnabod y galw aruthrol am dai fforddiadwy, a hynny wedi ei ddatblygu ochr yn ochr â’r gymdeithas tai. 

“Mae’r cais… yn union gerllaw i ffiniau datblygu sy'n ffurfio estyniad rhesymol i'r safle presennol."

Dywedodd ei fod eisoes wedi cwrdd â thrigolion lleol, ac wedi cymryd awgrymiadau blaenorol y cyngor o ddifri. 

“Mae’r cais yn dangos bod ‘na alw angenrheidiol am dai fforddiadwy yn yr ardal,” meddai.

‘Gwedd a theimlad’

Mi fydd Cyngor Gwynedd bellach yn trosglwyddo unedau i gymdeithas dai Adra. 

Bydd y cyngor hefyd yn gosod 'cytundeb 106' ar y safle, sef rheol gynllunio rhwng datblygwyr a’r awdurdod sydd yn gosod cyfyngiadau penodol ar safleoedd, gan gynnwys y math o dai fydd yn cael eu hadeiladu yno.

Roedd cais blaenorol wedi galw am bedwar tŷ deulawr – ond fe’i gwrthodwyd yn dilyn protest gan y cyhoedd a phryderon swyddogion y cyngor.

Fe ddaeth y cais diweddaraf yn dilyn “diddordeb lleol a gwrthwynebiad i’r cais,” yn ôl dogfen gynllunio.

Wedi ei leoli ar hyd yr A408, nid oedd y tir wedi ei ddynodi ar gyfer defnydd penodol ac fe’i hystyriwyd “y tu allan i ffin ddatblygu” Llanrug.

Roedd y cyngor wedi derbyn gohebiaeth yn amlygu pryderon yn lleol am y cais.

Roedd y rhain yn cynnwys amharu ar danc septig, colli preifatrwydd a golau'r haul, niwsans a phryderon diogelwch ffyrdd.

Gwrthwynebu

Yn gwrthwynebu’r cynlluniau ddydd Llun, dywedodd Dilwyn Parry Jones, sy’n byw yn lleol: “Yn gyntaf ac yn bwysig i mi, yw’r system garthffosiaeth, sef tanc septig ar y safle… bydd unrhyw waith gloddio yn amharu ar y system hon ac yn arwain at gostau sylweddol i ddarparu cysylltiad i’r carthffosiaeth cyhoeddus. 

“Yn ail, rwyf o'r farn bod datblygiad arfaethedig yn or-ddatblygiad ar y safle. Nid yw gosodiad o dai na chwaith y dyluniad yn adlewyrchu’r patrwm presennol o'r ardal yma o Lanrug.

“Bydd y datblygiad arfaethedig yn llenwi’r ardal agored yma… yn rhoi’r argraff bod y pentref yn ymestyn ei ffiniau.

“Bydd tai arfaethedig hefyd yn amharu ar wedd a theimlad o’r pentre’. Bydd y datblygiad hefyd yn ymestyn yn agos iawn i ffin Bryn Siriol.”

Roedd eraill eisoes wedi mynegi pryderon am geir yn parcio ar Ffordd Sirol, pwysau ar yr ysgol gynradd leol a cholli tir.

Codwyd hefyd yr effaith ar y safle bws, traffig ychwanegol,  gorddatblygiad a'r pellter agos rhwng y safle a'r dafarn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.