Newyddion S4C

Eisteddfod yr Urdd yn rhoi mynediad am ddim i blant at draciau ymarfer am y tro cyntaf

15/01/2024

Eisteddfod yr Urdd yn rhoi mynediad am ddim i blant at draciau ymarfer am y tro cyntaf

Bydd disgyblion ysgol sydd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn cael mynediad am ddim at draciau ymarfer am y tro cyntaf eleni.

Yn dilyn cyhoeddiad partneriaeth newydd rhwng Eisteddfod yr Urdd a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru (GCCC), bydd traciau ymarfer ar gyfer darnau gosod yn yr holl gategorïau canu Blwyddyn 6 ac iau Eisteddfod Sir Drefaldwyn 2024 ar gael ar gyfer cystadleuwyr.

Bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael mynediad am ddim i’r traciau drwy blatfform ar-lein Charanga Cymru, drwy wefan GCCC.

Disgyblion blwyddyn pedwar yn Ysgol Cefn Fforest, Y Coed Duon, Caerffili oedd y cyntaf i ddefnyddio’r platfform i ymarfer eu darn ar gyfer yr Eisteddfod.

Y rheswm y tu ôl i’r datblygiad yw i “gynyddu'r cyfle” i blant ddysgu ac ymarfer y darnau gosod, gan “helpu tiwtoriaid" a "a rhoi cyfle cyfartal i bawb.” 

Dywedodd Mari Lloyd Pritchard, Cyd-lynydd Cenedlaethol GCCC: “Mae’r Urdd yn cyfrannu gymaint at addysg gerdd yng Nghymru ac yn cynnig platfform gwerthfawr i gymaint o’n cerddorion ifanc.

“Dwi’n hynod o falch felly fod y bartneriaeth yma yn ein galluogi ni i leihau unrhyw rwystr i blentyn, athro neu ysgol i ddysgu caneuon, cynyddu deallusrwydd o ofynion cerddorol copïau a hefyd agor y drws i hwyluso’r cyfle i gyfansoddi.

“Mae’n cynnig cefnogaeth ar sawl lefel, boed eich bod chi’n gerddor profiadol neu yn rhywun sydd eisiau mwynhau canu neu ymarfer heb bod yna gyfeilydd ar gael bob dydd fel ‘tae.”

Mae GCC Cymru ac Eisteddfod yr Urdd yn dweud eu bod hefyd yn bwriadu ychwanegu at y cynnig dros y blynyddoedd nesaf. 

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd:  “Dyma’r flwyddyn gyntaf i ni ddarparu’r adnoddau hyn, a gobeithiwn dyfu bob blwyddyn i allu darparu traciau ac adnoddau ar gyfer pob un o’n cystadlaethau cerddoriaeth. 

“Gobeithio y cewch chi hwyl yn ymarfer gyda’r adnoddau arbennig hyn, ac fe welwn ni chi’n fuan ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd.”

Llun: Disgyblion blwyddyn pedwar yn Ysgol Cefn Fforest, Y Coed Duon, Caerffili

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.