'Ddim yn bosib' amddiffyn miloedd o dai yng Nghymru rhag llifogydd
Ni fydd yn "economaidd" amddiffyn miloedd o dai yng Nghymru sydd mewn peryg o lifogydd yn sgil newid hinsawdd dros y degawdau nesaf medd adroddiad.
Yn ôl yr adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddydd Mawrth, bydd 47% o'r holl eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd llanwol yn ystod y 100 mlynedd nesaf.
Bydd 34% o gartrefi pellach hefyd mewn perygl o lifogydd a ddaw o ddŵr arwynebol, tra bydd 23% yn fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd afonydd.
Mae angen mwy o fuddsoddiad ar gyfer amddiffynfeydd sy’n atal llifogydd yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd y gost yn cynnyddu deirgwaith dros y ganrif nesaf, yn ôl yr adroddiad.
Bydd rhaid ystyried yn ofalus a fydd modd amddiffyn eiddo mewn rhai cymunedau mewn modd “cost-effeithiol.”
Dywed y bydd angen gwneud “penderfyniadau anodd” mewn rhai sefyllfaoedd, gan ddweud y byddai ceisio amddiffyn dros 22,000 eiddo ar draws Cymru gyfan yn “aneconomaidd”.
Dywedodd Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru, Jeremy Parr, bod angen “ddeall beth sy’n bosibl” dros y tymor hir.
“Rydym yn gwybod y bydd angen i ni wneud pethau'n wahanol os ydym am fynd i'r afael â'r heriau mwy sydd o'n blaenau," meddai.
“Mae hyn yn cynnwys defnyddio dulliau rheoli llifogydd naturiol lle bynnag y gallwn, osgoi datblygiadau mewn ardaloedd â pherygl uchel o lifogydd, defnyddio dulliau dalgylch cyfan, rhagweld yn well ac annog pobl i gofrestru i gael rhybuddion llifogydd am ddim."
‘Sgwrs anodd'
Bydd darparu amddiffynfeydd llifogydd ar gyfer pob rhan o Gymru sydd ei angen yn gofyn am 3.4 gwaith y lefelau cyllido presennol, meddai’r adroddiad.
Ac er y byddai hynny’n sicrhau y bydd y perygl o lifogydd yn lleihau i’r rhan fwyaf o eiddo yn y wlad, bydd yn costio mwy i'w gyflawni.
Byddai buddsoddi mewn amddiffynfeydd “economaidd” yn unig, lle byddai'r budd economaidd o gyflawni gwaithyn fwy na’r costau, yn gofyn am gynnydd o 40% mewn lefelau cyllido.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Claire Pillman taw nod yr adroddiad yw helpu ddeall y buddsoddiad sydd wirioneddol eu hangen.
“Bydd yn sbarduno sgyrsiau anodd ynghylch lle mae rhaid targedu buddsoddiad a dulliau y gallai fod angen eu cymryd mewn ardaloedd sydd ag eiddo cyfyngedig a llai o fuddion economaidd," meddai.
“Ni fyddwn byth yn gallu atal pob achos o lifogydd, ac mae'r risgiau'n cynyddu.
“Dyna pam mae'n rhaid i lywodraethau o bob lefel, busnesau a chymunedau weithio gyda'i gilydd nawr - i gynllunio'n effeithiol, a gweithredu i reoli'r risgiau cynyddol o lifogydd yr ydym yn eu gweld nawr ac a fydd yn parhau yn y dyfodol."
Fe ddaw’r adroddiad, Gofynion Buddsoddi Hirdymor ar gyfer Amddiffynfeydd rhag Llifogydd yng Nghymru, mewn ymateb i gam gweithredu fel rhan o strategaeth rheoli peryglon llifogydd Llywodraeth Cymru.