Newyddion S4C

Chwe Gwlad: 10 chwaraewr na fyddwn yn eu gweld yng nghrys Cymru eleni

15/01/2024
Morgan / Biggar / Halfpenny

Mae’r Chwe Gwlad yn dychwelyd fis nesaf a dydd Mawrth, bydd Warren Gatland yn cyhoeddi carfan Cymru.

Gyda ffocws hir-dymor pob gwlad bellach ar Gwpan y Byd 2027, mae’r broses o ail-adeiladau carfan o’r newydd yn dechrau nawr – ac mae disgwyl y bydd edrychiad ifanc i’r garfan eleni.

Yn dilyn Cwpan y Byd y llynedd, mae sawl chwaraewr wedi ymddeol tra bod eraill wedi  symud i chwarae dramor ar draul chwarae dros Gymru.

Felly, pa chwaraewyr fyddwn ni ddim yn eu gweld yn cynrychioli Cymru? 

Dan Biggar

Image
Dan Biggar (Huw Evans)

Ar ôl 112 o ymddangosiadau, fe wnaeth Dan Biggar ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl i Gymru golli yn erbyn Yr Ariannin yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd.

Yn ddiweddar, fe wnaeth gyfaddef nad oedd “yn barod i bopeth orffen mor sydyn”, a'i fod “mewn sioc” yn dilyn y golled honno.

Mae’n dal i chwarae dros glwb Toulon yn y Top 14 yn Ffrainc.

Jac Morgan 

Image
Jac Morgan

Roedd Morgan yn un o sêr Cwpan y Byd y llynedd wrth iddo arwain o'r blaen dros Gymru.

Ond bydd Cymru heb eu capten yn ystod y Chwe Gwlad eleni, ar ôl i’r gŵr o Frynaman gael llawdriniaeth wedi iddo anafu ei  ben-glin. 

Leigh Halfpenny

Image
Halfpenny

Yn wyneb cyfarwydd i nifer fawr o gefnogwyr Cymru, ni fydd Leigh Halfpenny mewn crys coch eleni, ar ôl iddo ymddeol o chwarae rygbi rhyngwladol.

Mae’r gŵr 35 oed bellach yn chwarae rygbi yn Seland Newydd dros glwb y Crusaders.

Immanuel Feyi-Waboso

Image
Feyi Waboso

Mae hwn yn un dadleuol - ond yn ôl adroddiadau yn y wasg, mae’r asgellwr cyffrous o Gaerdydd wedi cwrdd â charfan Lloegr fel rhan o’u paratoadau ar gyfer y bencampwriaeth.

Mae Feyi-Waboso wedi disgleirio yn Uwch Gynghrair Lloegr dros Gaerwysg y tymor hwn, ond mae’n debyg y bydd mewn crys gwyn yn ystod y Chwe Gwlad.

Liam Williams

Image
Liam Williams

Mae’r cefnwr o Waunarlwydd wedi arwyddo dros glwb Kubota Spears yn Japan, ac mae’r clwb wedi dweud na fydd yn cael ei ryddhau i chwarae dros Gymru yn y Chwe Gwlad eleni. 

Colled fawr arall i Gats a’i dîm.

Gareth Anscombe

Image
Gareth Anscombe

Dyma chwaraewr arall a wnaeth symud i chwarae yn Japan, ond mae’r maswr nawr yn ôl yng Nghymru. 

Gwaethygodd yr anaf a gafodd yng Nghwpan y Byd, ar ôl iddo gyrraedd ei glwb newydd, Suntory Sungoliath yn Tokyo.

Penderfynodd ei gyflogwyr i ddiddymu’r cytundeb ar unwaith, cyn iddo gael cyfle i chwarae gêm, ac mae e wedi dychwelyd i Gymru ar gyfer llawdriniaeth.

Joe Hawkins

Image
Joe Hawkins

Roedd y canolwr 21 oed yn bresenoldeb cyson yn nhîm Gatland y llynedd. 

Ond ar ôl iddo adael y Gweilch er mwyn arwyddo dros Gaerwysg, nid yw bellach yn gymwys i chwarae dros Gymru, gan nad yw wedi ennill 25 o gapiau – sef y trothwy mae chwaraewyr sydd yn chwarae y tu allan i Gymru ei angen er mwyn cael eu dewis i gynrychioli eu gwlad.

Justin Tipuric

Image
Tipuric

Ni fyddwn yn gweld cap glas cyfarwydd y blaenasgellwr yn y Chwe Gwlad eleni chwaith, wedi iddo ymddeol o rygbi rhyngwladol, yr un diwrnod ag Alun Wyn Jones fis Mai'r llynedd.

Mae'r Gweilch yn gobeithio y bydd eu capten yn dychwelyd i'r maes dros yr wythnosau nesaf ar ôl anaf.

Ken Owens

Image
Ken Owens

Roedd y bachwr profiadol yn gapten ar Gymru yn y Chwe Gwlad y llynedd, ond prin mae e wedi chwarae ers hynny, oherwydd anaf i’w gefn.

Mae’r Scarlets yn gobeithio ei weld yn dychwelyd i’r maes cyn diwedd y tymor, ond “araf deg” y mae’n gwella o’i anaf yn ôl rheolwr y rhanbarth, Dwayne Peel.

Taine Plumtree

Image
Taine Plumtree

Arwyddodd y chwaraewr rheng ôl pwerus o Seland Newydd i’r Scarlets yr haf diwethaf, a chafodd ei gynnwys yng ngharfan estynedig Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.

Roedd disgwyl i'r gŵr 23 oed ymddangos yn y Chwe Gwlad eleni, ond wedi iddo gael anaf i’w ysgwydd, ni fydd yn cael ei ystyried ar gyfer y gystadleuaeth y tro hwn.

Y tu hwnt i Gymru, bydd sawl chwaraewr arall cyfarwydd yn absennol eleni, gan gynnwys:

Johnny Sexton, Keith Earls (Iwerddon)

Owen Farrell, Mako Vunipola, Courtney Lawes (Lloegr)

Antoine Dupont (Ffrainc)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.