Dau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Sir Benfro
15/01/2024
Mae dau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ffordd yn Sir Benfro.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw'n ymchwilio wedi gwrthdrawiad dau gerbyd ar Heol y Capel yn Crundale am 13:50 ar 11 Ionawr.
Cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng cerbyd Citroen C3 coch a cherbyd VW Fox du.
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20240111162.