Yr heddlu wedi gadael merched ifanc 'ar drugaredd' gangiau yn Rochdale
Cafodd merched ifanc eu gadael "ar drugaredd" gangiau oedd yn eu camdrin yn Rochdale oherwydd methiannau gan uwch swyddogion heddlu ac arweinwyr cyngor, yn ôl adroddiad newydd.
Mae'r adolygiad 173 tudalen yn canolbwyntio ar y cyfnod 2004 i 2013 ac yn datgan sawl methiant gan Heddlu Greater Manchester i ddiogelu cannoedd o bobl ifanc a gafodd eu cam-drin.
Dywedodd Malcolm Newsam CBE, cyd-awdur yr adroddiad: "Cafodd nifer o ymgyrchoedd heddlu eu lansio dros y cyfnod hwn, ond nid oedd digon o adnoddau ar gael i gyd-fynd â graddfa’r ecsploetiaeth drefnedig eang yn yr ardal.
"Yn sgil hyn, cafodd plant eu gadael mewn perygl ac nid yw llawer o’r rhai a wnaeth eu cam-drin wedi cael eu dal hyd heddiw.”
Mae'r adroddiad yn rhestru 96 o ddynion sydd hyd heddiw yn cael eu gweld fel risg i blant, ond "dim ond rhan" o’r nifer oedd yn rhan o’r gamdriniaeth ydi hyn, meddai.
'Ddim yn flaenoriaeth'
Yn ôl yr adroddiad, roedd "tystiolaeth gref" o gam-drin plant yn rhywiol yn Rochdale o mor gynnar â 2004, gan ddyfynnu sawl adroddiad yn ymwneud â grwpiau o ddynion Asiaidd.
Ond cafodd amharodrwydd y plant i wneud cwyn swyddogol ei ddefnyddio fel esgus i beidio ag ymchwilio.
Yn 2007, fe wnaeth Tîm Ymyrraeth mewn Argyfwng Rochdale, a sefydlwyd o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn cefnogi dioddefwyr troseddau rhywiol, dynnu sylw Heddlu Greater Manchester a Chyngor Rochdale i'r ffaith bod y camdrin rhywiol yn cael ei drefnu gan gangiau troseddol.
Fe wnaeth Heddlu Greater Manchester adnabod arweinwyr y grŵp, ond ni wnaeth ymchwilio ymhellach oherwydd bod y plant yn rhy ofnus i'w cynorthwyo.
Dywed yr adroddiad fod hwn yn "fethant difrifol" i amddiffyn y plant, gan anwybyddu'r rheolaeth oedd gan y grŵp dros y dioddefwyr a'u teuluoedd.
Ym mis Rhagfyr 2010, fwy na ddwy flynedd ar ôl dod yn ymwybodol o'r camdrin mewn dau fwyty, fe wnaeth Heddlu Greater Manchester weithredu a lansio Ymgyrch Span, a arweiniodd at ddedfrydu naw dyn ym mis Mai 2012.
Clywodd yr achos fod merched mor ifanc â 12 oed wedi dioddef camdriniaeth yn ymwneud ag alcohol a chyffuriau ac wedi cael eu treisio mewn ystafelloedd uwchben y bwytai.
Ond er bod y llu wedi dweud bod Ymgyrch Span yn “ganlyniad gwych i gyfiawnder Prydeinig”, mae'r adroddiad yn nodi fod yr ymgyrch heddlu wedi methu â mynd i’r afael â nifer o droseddau eraill ac wedi anwybyddu honiadau plant gan adael y rheini a oedd yn eu camdrin yn rhydd.
Ers hynny mae Heddlu Greater Manchester wedi lansio ymchwiliadau pellach, sydd hyd yma wedi arwain at euogfarnau yn erbyn 42 o ddynion oedd yn ymwneud â cham-drin 13 o blant.
Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod uwch reolwyr a rheolwyr canol yn yr heddlu a gofal cymdeithasol plant yn ymwybodol o lefel y cam-drin yn Rochdale, ond ni roddwyd “digon o flaenoriaeth” i’r broblem.