Newyddion S4C

Dewis ymgeiswyr Gweriniaethol Iowa: Beth yw arwyddocâd y ras am yr ail safle?

15/01/2024
DeSantis, Trump a Haley

Mae Gweriniaethwyr yr Unol Daleithiau yn dechrau’r broses o ddewis ymgeisydd ar gyfer etholiad Arlywydd 2024 mewn tywydd rhewllyd iawn yn Iowa ddydd Llun.

Iowa yw’r cyntaf o’r 50 talaith yn yr Unol Daleithiau i ddechrau pleidleisio, cyn New Hampshire ar 23 Ionawr.

Bydd y gweriniaethwyr yn ymgasglu mewn 1,657 safle ledled y dalaith ac yn cynnal pleidlais ar bwy fydd yn cael ei enwebu i herio yr Arlywydd Joe Biden ym mis Tachwedd, gan gynnwys areithiau o blaid ac yn erbyn yr ymgeiswyr gwahanol.

Mae disgwyl i Donald Trump ennill y bleidlais ar draws y dalaith gyfan yn gyfforddus ond mae’r ornest yn debygol o chwarae rhan bwysig wrth benderfynu pwy fydd ei brif wrthwynebydd yn y ras ar gyfer yr enwebiad.

Bydd cyn-lysgennad yr Unol Daleithiau i’r Cenhedloedd Unedig, Nikki Haley a Llywodraethwr Florida Ron DeSantis yn gobeithio dod yn ail yn y gystadleuaeth.

'Hwb'

Mae disgwyl i’r tymheredd blymio i -20 gradd Celsius dros nos gan olygu mai dyma fydd y cawcws oeraf yn hanes Iowa.

Fe awgrymodd arolwg barn Des Moines Register/NBC News ddydd Sadwrn mai Trump yw’r ceffyl blaen yn yr ornest o hyd ond roedd ansicrwydd am effaith y tywydd eithafol ar y bleidlais.

Roedd Donald Trump ar y blaen gyda 48% o gefnogaeth Gweriniaethwyr Iowa. Roedd Haley yn yr ail safle ar 20% a DeSantis yn drydydd ar 16%.

“Rwy’n gwybod ei fod yn oer, ond rydw i eich angen chi allan yna,” meddai Nikki Haley mewn fideo cyn y bleidlais. "Gadewch i ni orffen yn gryf.”

Wrth siarad o flaen 500 o gefnogwyr cyn y bleidlais dywedodd Donald Trump: “Peidiwch ag aros adref... Os ydych chi’n pleidleisio ac yna’n marw, fe fydd werth yr ymdrech.”

Dywedodd Ron DeSantis: “Rydyn ni'n dweud wrth ein cefnogwyr: Pan ydych chi'n mynd allan, ewch â rhai ffrindiau a theulu. Fe fyddai yn hwb mawr.”

Fe awgrymodd Cadeirydd Plaid Weriniaethol Iowa, Jeff Kaufmann, na fyddai'r tywydd yn cael cymaint â hynny o effaith ar faint oedd yn pleidleisio.

“Mae pobl Iowa yn gwybod beth i’w wisgo ar gyfer hynny,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.