Newyddion S4C

Gwasanaeth ffôn iaith Gymraeg HSBC yn dod i ben

15/01/2024
HSBC

Fe fydd gwasanaeth ffôn iaith Gymraeg HSBC yn dod i ben yn swyddogol ddydd Llun. 

Cyhoeddodd y banc ym mis Hydref nad oedd y gwasanaeth iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn ddigonol bellach, gyda gostyngiad cyson yn y niferoedd sydd yn ei ddefnyddio.

Mae'r penderfyniad wedi bod yn un dadleuol gyda Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd wedi ysgrifennu at y banc yn eu cyhuddo o ddangos “dirmyg” tuag at siaradwyr Cymraeg.

Ychweanegodd y pwyllgor fod “methiant HSBC i gynnal dull sy’n cyd-fynd â'i werthoedd yn cael ei ystyried yn annidwyll ac yn annifyr”.

Wrth gadarnhau bod y gwasanaeth yn dod i ben ddydd Llun dywedodd HSBC mai 22 o alwadau mae’r llinell yn eu derbyn yn ddyddiol bellach, o gymharu â 18,000 ar y llinellau iaith Saesneg.

"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ein cwsmeriaid Cymraeg, ond oherwydd y lefel eithriadol o isel o alwadau i’n llinell Gymraeg bwrpasol – llai na dau ddwsin o alwadau’r dydd ar gyfartaledd – mae angen i ni wneud newidiadau," medden nhw.

"Os yw cwsmer eisiau siarad â siaradwr Cymraeg, mae modd trefnu hynny o hyd. Byddwn hefyd yn parhau i sicrhau fod cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn hanner ein canghennau Cymreig a byddwn yn parhau i ymateb i ohebiaeth cwsmeriaid yn Gymraeg.”

Ychwanegodd y banc mai dim ond ymholiadau banc syml sydd ar gael ar y gwasanaeth Gymraeg, gan gynnwys gwirio balans a gwneud taliadau, tra bod ceisiadau mwy cymhleth, gan gynnwys yn ymwneud ag atwrneiaeth, profedigaeth a thwyll yn gorfod cael eu trosglwyddo i linell Saesneg er mwyn eu prosesu.

O ddydd Llun ymlaen, fe fydd galwadau i'r llinell iaith Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i'r brif ganolfan gyswllt, medden nhw.

'Mwy o alwadau'

Wrth gael ei holi gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd ddiwedd mis Tachwedd, dywedodd  José Carvalho, Pennaeth Cyfoeth a Bancio Personol HSBC eu bod nhw’n sefydlu gwasanaeth galw yn ôl newydd a fyddai yn “gwarantu” bod ceisiadau yn cael eu hateb yn Gymraeg o fewn tridiau.

Dywedodd fod ganddyn nhw dri aelod o staff oedd yn ateb galwadau Cymraeg a Saesneg, oedd yn golygu mai "dim ond 6% o'r galwadau yn Gymraeg oedd yn cael eu hateb yn yr iaith".

"Trwy'r gwasanaeth galw'n ôl gallwn warantu bod pobl yn derbyn gwasanaeth yn Gymraeg,” meddai.

“Felly bydd mwy o alwadau yn Gymraeg.”

Fe wnaeth y pwyllgor ddadlau bod hynny yn golygu bod 94% o’r galwadau ddim yn cael eu hateb yn Gymraeg a bod hyn yn dangos methiant sylfaenol yng ngwasanaeth y banc.

Mewn llythyr at y banc dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor y Senedd, eu bod nhw wei dangos “dirmyg” at eu cwsmeriaid.

“Mae nifer isel yr alwadau y mae HSBC yn cyfeirio atynt yn dangos anallu eich banc i ddarparu gwasanaeth gweithredol a chyson sy'n diwallu anghenion ei gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith,” meddai.

“Credwn fod hyn yn dangos lefel o ddirmyg tuag at gwsmeriaid HSBC, a bod iaith a rhesymeg y banc ynghylch y penderfyniad i gau’r Gwasanaeth yn annidwyll. 

“Effaith gweithredoedd HSBC yw gwthio siaradwyr Cymraeg allan mewn ffordd lechwraidd. 

“Mae awgrymu bod y penderfyniad i gau'r Gwasanaeth oherwydd gostyngiad yn y defnydd ohono yn camliwio’r ffeithiau. 

“O ganlyniad i hyn, byddem yn ailadrodd mor gryf â phosibl ein galwadau i HSBC ailystyried y penderfyniad i gau’r Gwasanaeth.”

'Newidiadau'

Ychwanegodd HSBC ddydd Llun hefyd na fyddai unrhyw gangen yng Nghymru yn cau yn 2024.

Dywedodd llefarydd ar ran HSBC: "Rydym yn parhau wedi ein hymrwymo i gefnogi cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg, ond yn sgil y lefel isel iawn o alwadau i'r gwasanaeth ffôn iaith Gymraeg, sef llai na dau ddwsin o alwadau y dydd, mae'n rhaid i ni wneud newidiadau. 

"Os ydi cwsmer yn dymuno siarad gyda siaradwr Cymraeg, gall hynny gael ei drefnu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.