Llygredd o hen waith haearn yn troi Afon Llwyd yn oren
Fe wnaeth rhan o Afon Llwyd yn Nhorfaen droi'n oren am gyfnod ddiwedd wythnos diwethaf.
Roedd pobl sy'n byw gerllaw wedi eu rhyfeddu o weld yr olygfa, wrth i ran o'r afon oedd yn llifo drwy ardal Charlesville ym Mhont-y-pŵl newid lliw ddydd Gwener.
Postiodd pobl leol luniau o'r olygfa ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddyfalu beth oedd yn gyfrifol am y newid lliw trawiadol.
Wrth ateb y dirgelwch, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru brynhawn dydd Sul fod y llygredd dŵr oedd yn gyfrifol wedi dod o hen waith haearn gerllaw.
"Drwy weithio'n agos gyda'r Awdurdod Glo rydym wedi cadarnhau mai Cwlfert Nant Cwmsychan, hen safle gwaith haearn ger Abersychan yn Nhorfaen, yw'r ffynhonnell llygredd dŵr."
Ychwanegodd llefarydd fod lliw'r afon wedi dechrau sefydlogi erbyn dydd Sul gan adael y dŵr yn llawer cliriach, "er bod gwaddod oren yn parhau ar wely'r afon".
Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru